Marwolaeth cynghorydd: Dau yn y llys

  • Cyhoeddwyd
Christopher Jones a Lowri Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Christopher Jones (chwith) a Lowri Powell (dde) wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth y Cynghorydd Paul James yn mis Ebrill 2019

Mae dau berson wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth cynghorydd o Geredigion drwy yrru'n ddiofal.

Cafodd Paul James, oedd yn 61 oed, ei ladd pan gafodd ei daro oddi ar ei feic ar gyrion Aberystwyth ym mis Ebrill y llynedd.

Roedd yn ymarfer ar gyfer ras feicio i elusen.

Cafodd Christopher Allan Jones, 40 oed o Bontarfynach, a Lowri Ruth Powell, 43 oed o Benrhyncoch, eu cyhuddo ar wahân o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Fe wnaeth ynadon Aberystwyth gofnodi ple o ddieuog ar ran y ddau ddiffynnydd, ac fe gafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe.

Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac fe fyddan nhw'n ymddangos yn y llys yn Abertawe ar 7 Chwefror.