Ieuan Rhys: Plismon y Cwm a Dame y pantos
- Cyhoeddwyd
O actio Sarjant James ar Pobol y Cwm, rhannu'r sgrin fawr â Hugh Grant, i actio 'dames' mewn pantomeims, mae gyrfa'r actor Ieuan Rhys wedi bod yn amrywiol iawn.
Ac er ei fod wedi gwybod ers iddo fod yn ifanc mai dyma oedd y gyrfa iddo ef, bron i hynny beidio â digwydd...
Breuddwyd plentyn
Mynd i weld pantomeims yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd gyda'i fam bob blwyddyn a'i ysbrydolodd i geisio dilyn gyrfa mewn actio, meddai Ieuan.
"Pan o'n i'n fach iawn, o'dd rhaid i fi gael triniaeth ar fy nghoes, a phob Ionawr, o'n i'n gorfod mynd lawr i Gaerdydd i'r ysbyty, ac o'dd mam wastod yn 'neud siŵr fod y check-up yn y bore, iddi hi a fi fynd i'r New Theatre yn y p'nawn i weld matinee y panto. Dyna pam 'wi'n joio 'neud panto nawr, fi'n credu.
"Pan o'n i'n fy arddegau, bydden ni'n mynd lawr i Abertawe i weld Ryan a Ronnie yn eu pantos nhw, a pan o'n i'n Ysgol Rhydfelen, o'n i'n cymryd rhan yn pob un drama, cwrs drama'r Urdd, cyrsie drama lawr yn Ogwr - 'na beth o'n i wir eisie'i 'neud.
"Ond ges i'n fforsio i beidio dilyn y trywydd 'na gan rai o athrawon yr ysgol a'n nhad. Dim ond yn ddiweddar ma' mhlant i wedi ffeindio mas bo' fi wedi ffaelu Lefel A - a dyna'r peth gorau ddigwyddodd i fi erioed."
Ar ôl methu'r arholiadau, a pheidio cael lle yng ngholeg dysgu'r Normal ym Mangor, aeth Ieuan i swogio yn Llangrannog. Yno derbyniodd alwad ffôn annisgwyl gan ei brifathro, a drefnodd gyfweliad i Ieuan yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ymhen pythefnos, roedd wedi dechrau ar y cwrs.
Troedio strydoedd y Cwm
Ar ôl graddio, dair blynedd yn ddiweddarach, dechreuodd Ieuan ar ei swydd actio broffesiynol gyntaf, fel extra ar y gyfres deledu Coleg.
"'Wi'n cofio'r prynhawn cynta', a 'na gyd o'dd 'da fi 'neud o'dd cerdded lan llofft a gweud 'Helo' - a ges i'n nhalu £42. O'n i'n meddwl mai fi oedd y dyn cyfoethoca' yng Nghaerdydd!
"Nes i hala llythyr at gynhyrchydd Pobol y Cwm, yn gofyn am waith tebyg. Ges i ngalw mewn, ac o'n i'n meddwl fod Pobol y Cwm yn cymryd pethe o ddifri', yn rhoi cyfweliadau i extras - a gynigion nhw ddwy bennod i mi, fel PC James.
"'Nes i dderbyn, a 'nath y ddwy bennod yna bara' 13 blynedd!"
Plismon bythol?
Ar ôl cyfnod mor hir, roedd hi'n anodd iawn i Ieuan orfod ffarwelio â'r Cwm, a nifer o'r cyfeillion roedd wedi eu cwrdd ar y gyfres.
"O'n i'n ypset achos y BBC benderfynodd i sgrifennu'r cymeriad mas o'r gyfres, ac achos fod e'n fyd mor ansicr, o'n i'n meddwl ar y pryd 'o 'na fe, diwedd ar fy ngyrfa i'.
"Ond ges i gyfweliad ar gyfer cyflwyno Sion a Siân, a ges i gynnig y swydd cyn i fi adael Pobol y Cwm yn iawn. O'n i'n lwcus iawn, achos ges i gyfnod hapus iawn yn cyflwyno chwe chyfres, 'da Gillian Elisa."
Mae Ieuan wedi gweithio'n gyson ers hynny, ac yn ddiddorol, wedi cael mwy nag un rôl plismon ers Pobol y Cwm...
"Fues i'n un yn y gyfres A Mind to Kill / Yr Heliwr. O'dd y cyfarwyddwr o'dd yn castio ddim yn siarad Cymraeg, so o'dd e ddim yn gwybod lot amdana i. A'r un peth 'da'r ffilm nes i gyda Hugh Grant - The Englishman who Went up a Hill but Came down a Mountain - ges i gynnig y rhan plisman yn hwnna.
"'Wi'n cofio ffrind yn gofyn 'be', ti'n mynd i 'neud e?'. 'Wrth gwrs bo' fi'n mynd i 'neud e - dwi ddim am droi lawr feature film gyda Hugh Grant!' 'Ti'm yn meddwl bo' ti am gael dy typecastio?' 'Sdim ots 'da fi,' medde fi."
'Joio gweithio'
Fodd bynnag, nid yw bywyd actor yn un sefydlog iawn bob amser. Er ei fod mewn gwaith yn gyson, mae Ieuan yn ymwybodol y gallai'r gwaith ddod i ben yn sydyn.
"'Wi yn un sy'n poeni lot o hyd os oes dyddiadur gwag 'da fi. Gan amla', 'sdim angen poeni - achos 'wi'n g'neud pethe eraill heblaw actio. 'Wi'n diddanu cynulleidfaoedd a thwristiaid yng Nghastell Caerdydd, ac ers rhyw ddwy flynedd, 'wi wedi bod yn rhan o Loving Welsh Food, sy'n mynd â thwristiaid o amgylch Caerdydd i fwyta. 'Wi'n cael fy nhalu i fwyta!
"Ond mae'n anodd, wastad wedi bod yn anodd. Dim ond tua 1% o actorion sy'n cael gwaith yn gyson - y gweddill ohonon ni, jobbing actors 'yn ni.
"'Wi yn jobbing actor, a fi'n joio gweithio. 'Wi'n credu mai theatr sy'n rhoi'r buzz i fi achos yr ymateb chi'n gael, a hwnna sy'n 'neud i fi feddwl ''ma'r rheswm fi'n 'neud e'.
"Mae panto'n waith caled. Ma' whare dame yn galetach na ddim byd. Ma' fe'n gallu bod yn lladdfa. Shwt ni'n mynd trwyddo fe, 'wi ddim yn gwybod - falle ma'r gynulleidfa sy'n codi'n calonne ni wrth fynd ar y llwyfan, a chlywed y chwerthin cyntaf.
"Ond un o'r jobs 'wi 'di joio 'neud fwya', yn rhyfedd iawn, yw pan o'n i'n gweithio i Radio Cymru yn 'neud Showbusnesan. 'Sai'n credu bod e'n gyfrinach bod arian radio ddim yn ffantastig, ond o'dd e'n bleser i fynd mewn i Radio Cymru bob Dydd Llun a Dydd Mawrth i baratoi.
"'Wi'n gredwr mawr mewn job satisfaction. Mae'r arian yn bwysig, wrth gwrs ei fod e - ond 'wi'n licio gadel job gyda gwên ar fy ngwyneb i a'r diwrnod 'na i stopio gwenu yw'r diwrnod 'na i roi'r gore i'r busnes."
Hefyd o ddiddordeb: