Busnesau Bangor yn galw am gymorth wedi tân Stryd Fawr
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion busnesau ym Mangor sydd wedi eu heffeithio yn dilyn tân mewn adeilad cyn y Nadolig yn galw am gymorth, gan fod llai o gwsmeriaid yn galw i'w siopau.
Mae rhan o'r stryd fawr, ger Cadeirlan Bangor, ar gau i draffig ers y tân mewn fflat uwchben bwyty Noodle One ar 17 Rhagfyr.
Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd fod disgwyl i ran o'r stryd fod ar gau i draffig am rai wythnosau eto wrth i waith fynd rhagddo i sefydlogi dau adeilad.
Yn ôl Cyngor Gwynedd mae'n "debyg" y bydd y gwaith, sy'n cynnwys symud malurion o'r safle gyda chraen, yn "cymryd tan y Pasg i'w gwblhau".
Cynnig parcio am ddim?
Yn ôl perchnogion sawl busnes ar hyd y darn o'r stryd sydd wedi ei effeithio, mae angen i Gyngor Gwynedd ystyried cynnig cymorth.
Mae Carys Davies yn berchennog ar fusnes So Chic. Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae cau y ffordd i draffig wedi effeithio arna ni, achos mae na lai o footfall wedi bod.
"Ac ers iddi gau mae pobl yn meddwl fod yn lôn ar gau i bawb, ond mae hi ar agor i gerddwyr.
"Dwi'n deall erbyn hyn na fydd y ffordd ar agor i draffig tan y Pasg - sydd yn andros o hir. Mis Chwefror oeddwn i wedi ei glywed yn wreiddiol, ond bellach mae am fod yn Basg cyn iddi agor."
Ychwanegodd: "Mi fyddwn i'n croesawu gostyngiad mewn trethi busnes i fusnesau sydd wedi cael eu heffeithio - mae unrhyw beth yn mynd i helpu.
"Beth am gael parcio am ddim dros dro i gwsmeriaid? Ella parcio am ddim rhwng 11:00 a 15:00? Neu 11:00 a 16:00 bob dydd i siopwyr? Mi fasa hynny yn help."
Llai o dreth yn 'andros o help'
Busnes arall sydd wedi ei effeithio ydy bar a bwyty Fat Cat. Dywedodd y rheolwr wrth Cymru Fyw: "Mae wedi effeithio dim just ni ond y busnesau ar hyd y ffordd hefyd.
"Mae wedi creu trafferthion i fusnesau sydd yn derbyn nwyddau ar hyd y ffordd a traffig cerddwyr ar hyd y ffordd hefyd.
"Roeddwn i'n meddwl y byddai'r ffordd ar gau am fisoedd lawer o achos y nifer o sgaffaldiau sydd wedi eu codi ar yr adeilad aeth ar dân, a'r difrod i'r adeilad.
"Mi fyddai gostyngiad mewn trethi yn andros o help i fusnesau, er ein bod ni'n lwcus am ein bod ni'n gallu derbyn nwyddau o'r maes parcio yn y cefn - ond dydy bob busnes ddim mor lwcus."
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams a'r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian wedi galw ar y cyngor i ystyried mesurau dros dro i gefnogi busnesau sydd wedi eu heffeithio, gan gynnwys torri trethi busnes dros dro i fusnesau'r stryd fawr.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedon nhw: "Mae rhai busnesau stryd fawr Bangor wedi bod mewn cysylltiad â ni i fynegi pryder am eu sefyllfa, yn dilyn cau'r stryd fawr i draffig oherwydd y tân diweddar.
"O ystyried yr effaith ar fusnesau lleol, rydym wedi gofyn i'r cyngor edrych ar ba fesurau amgen dros dro y gellir eu rhoi mewn lle i helpu i leddfu'r pwysau ar fusnesau lleol, o ran darparu rhyddhad ariannol a threfniadau traffig wrth gefn."
Cymorth ceisiadau
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, Pennaeth Amgylchedd Cyngor Gwynedd, fod yr awdurdod yn fodlon cynnig cymorth i fusnesau sydd am baratoi ceisiadau am ostyngiad mewn trethi busnes yn dilyn yr anghyfleustra.
"Wrth gwrs fe all y cyngor fedru helpu busnesau i fod yn paratoi ceisiadau i'r Swyddfa Brisio i fod yn cwtogi cyfraddau trethi.
"O dan Lywodraeth Cymru mae'r penderfyniad yna'n cael ei wneud ond allwn ni helpu ein busnesau i ddod a ceisiadau at ei gilydd gyda'r dystiolaeth angenrheidiol i fod yn cefnogi'r ceisiadau hynny."
Mae'r cyngor yn pwysleisio bod pob busnes stryd fawr arall yn parhau ar agor a bod traffig yn dal yn gallu cyrraedd rhan uchaf y Stryd Fawr trwy Lôn Pobty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019