Rhan o Stryd Fawr Bangor ar gau 'tan y Pasg' wedi tân
- Cyhoeddwyd
Bydd rhan o Stryd Fawr Bangor yn parhau ynghau i draffig am rai wythnosau eto wrth i waith fynd rhagddo i sefydlogi dau adeilad yn dilyn tân cyn y Nadolig.
Yn ôl Cyngor Gwynedd mae'n "debyg" y bydd y gwaith, sy'n cynnwys symud malurion o'r safle gyda chraen, yn "cymryd tan y Pasg i'w gwblhau".
Mae masnachwyr yn yr ardal eisoes wedi mynegi pryder bod cau'r stryd unffordd yn atal cwsmeriaid rhag galw ac yn ei gwneud hi'n anodd i lorïau gludo nwyddau i'r busnesau.
Dywedodd y cyngor bydd "pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith mor gyflym a diogel â phosib" ond bod y dasg yn un "gymhleth a heriol".
Mae rhan o'r stryd fawr, ger Cadeirlan Bangor, ar gau i draffig ers y tân mewn fflat uwchben bwyty Noodle One ar 17 Rhagfyr.
Dywedodd y cyngor bod y tân wedi achosi difrod sylweddol i'r adeilad ei hun a difrod helaeth i un o'r adeiladau drws nesaf, gan beri pryder i gyflwr strwythurol y ddau.
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, pennaeth amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Bydd cael gwared â malurion a gwneud yr adeiladau hyn yn ddiogel yn dasg gymhleth a heriol.
"Yn anffodus, ar ôl archwilio'r holl opsiynau posib, mae ein peirianwyr strwythurol wedi cadarnhau nad oes unrhyw ffordd y gellir cwblhau'r gwaith hwn yn ddiogel heb gadw'r rhan hon o'r Stryd Fawr ar gau i draffig am nifer o wythnosau.
"Rydym yn llwyr werthfawrogi effaith y sefyllfa yma ar breswylwyr lleol, masnachwyr a siopwyr, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau'r gwaith mor gyflym a diogel â phosib."
Mae'r cyngor yn pwysleisio bod pob busnes stryd fawr arall yn parhau ar agor a bod traffig yn dal yn gallu cyrraedd rhan uchaf y Stryd fawr trwy Lôn Pobty.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019