Cynnal Plygain Fawr olaf Llanfihangel-yng-Ngwynfa

  • Cyhoeddwyd
eglwys llanfihangel-yng-ngwynfa
Disgrifiad o’r llun,

Yn yr eglwys hon yn Llanfihangel-yng Ngwynfa mae bedd Ann Griffiths

Mae'r Blygain Fawr olaf wedi'i chynnal yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys.

Mae'r gwasanaeth carolau Nadoligaidd yn un traddodiadol ond anffurfiol a ddechreuodd yn y 16eg ganrif.

Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd i flaen yr eglwys i ganu carolau plygain.

Nos Sul oedd y blygain olaf yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa gan fod yr eglwys yn cau oherwydd cyflwr yr adeilad.

Mae'r emynydd Ann Griffiths wedi ei chladdu ar y safle, a dyma gartref y Blygain Fawr sy'n cael ei chynnal bob Ionawr.

Y Blygain Fawr sy'n nodi diwedd y tymor plygeiniol.

Fel rheol, cynhelir gwasanaethau plygain rhwng tri a chwech o'r gloch ar fore Nadolig, er mae bellach yn cael ei chynnal gyda'r nos.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn llawn nos Sul ar gyfer y Blygain Fawr olaf

Bu Glyn Evans yn ddarllenydd yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Dywedodd: "Mae'n draddodiad sydd wedi'i gynnal ers cymaint o amser, mae 'na gyfeirad ato yn Llyfr Coch Hergest hyd yn oed.

"Mae'n ddiwedd cyfnod ydy, ond dwi'n sicr bydd y traddodiad plygeiniol yn parhau - dim ond yn rhywle arall.

"Mae 'na blygeiniau yn cael eu cynnal ar draws Maldwyn ac yn Swydd Amwythig hyd yn oed. Dim dyma ddiwedd y blygain dwi'n siŵr."

Bu'n draddodiad ledled Cymru ar un cyfnod, bellach mae i'w weld fwyaf yng nghanolbarth Cymru.

'Eithriadol o drist'

Mae Maldwyn yn ardal sydd â thraddodiadau plygain cryf ac mae siom enfawr yn lleol bod y Blygain Fawr olaf wedi cael ei chynnal yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa.

Fe gafodd Eleri Rogers ei magu yn yr ardal, er ei bod bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Dwi wedi bod i un plygain o'r blaen ond roeddwn i'n teimlo ei bod hi'n bwysig teithio yma heno," meddai.

"Mae hi'n eithriadol o drist bod traddodiad fel hyn - sydd o bwysigrwydd hanesyddol - yn dod i ben yn y pentref heno. Mae'n golled enfawr."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Esgobaeth Llanelwy bod cau'r eglwys yn benderfyniad anodd

Dywedodd llefarydd ar ran Esgobaeth Llanelwy bod y gymuned wedi gwneud y penderfyniad wedi iddi ddod i'r amlwg bod costau atgyweirio'r adeilad yn ormod i'r gymuned ei godi.

"Mae'r Esgobaeth yn deall bod cau eglwys yn benderfyniad anodd i unrhyw gymuned ac rydyn ni'n ymestyn ein cefnogaeth i bawb sy'n cael eu heffeithio," meddai.