Pum chwaraewr heb gap yng ngharfan y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Capiau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Louis Rees-Zammit o glwb Caerloyw a WillGriff John o glwb Sale ymysg y pum chwaraewr heb gap sydd wedi eu cynnwys

Mae pum chwaraewr heb gap yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Yn eu plith mae'r blaenwyr WillGriff John a Will Rowlands, a'r olwyr Nick Tompkins, Johnny McNicholl a Louis Rees-Zammit.

Mae'r garfan hefyd yn cynnwys Rhys Webb, sydd dan gytundeb i glwb Toulon yn Ffrainc.

Mae Webb - sydd wedi ennill 31 o gapiau rhyngwladol - wedi cael caniatâd i fod yn rhan o'r garfan gan y bydd yn dychwelyd i Gymru i chwarae i'r Gweilch yn ystod y tymor nesaf.

Fel arfer nid yw chwaraewr sydd dan gytundeb i glwb tramor yn gymwys i chwarae i'w wlad, oni bai fod ganddo 60 o gapiau.

Ffynhonnell y llun, Undeb Rygbi Cymru

Mae'r canolwr Jonathan Davies yn absenol o'r garfan o achos anaf, ond mae'r wythwr Taulupe Faletau yn ôl wedi cyfnod ar yr ystlys.

Mae canolwr arall, Willis Halaholo, yn absennol oherwydd anaf, ac er bod Owen Watkin wedi ei gynnwys yn y garfan, ni fydd yn holliach erbyn y gêm gyntaf.

Nid yw'r maswyr Gareth Anscombe a Rhys Patchell, y prop Tomas Francis, yr olwr Hallam Amos na'r blaenasgellwr James Davies, wedi eu cynnwys oherwydd anafiadau.

Does dim lle i Aled Davies, Scott Williams, Nicky Smith na Bradley Davies yn y garfan.

'Braint' hyfforddi Cymru

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar 1 Chwefror gyda gêm gartref i Gymru yn erbyn Yr Eidal.

Hon fydd y bencampwriaeth gyntaf gyda Wayne Pivac wrth y llyw wedi i Warren Gatland roi'r gorau i'r gwaith ar ôl Cwpan y Byd 2019, a hynny ar ôl 12 mlynedd o reoli'r garfan genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Cymru'n gobeithio dathlu'r un math o lwyddiant a gafwyd y llynedd

Yn wreiddol o Seland Newydd, roedd Pivac yn rheolwr y Scarlets cyn cael ei benodi fel prif hyfforddwr.

Dyma fyddai'r ail dro i'r gŵr 55 oed reoli tîm cenedlaethol, ar ôl hyfforddi tîm Fiji rhwng 2004 a 2007.

Dywedodd ei bod hi'n "fraint ac yn anrhydedd i gael fy ngofyn i fod yn hyfforddwr nesaf Cymru" pan gafodd ei benodi.

Fe fydd yn gobeithio efelychu llwyddiant carfan Chwe Gwlad y llynedd, pan gipiodd Cymru'r Gamp Lawn.

Amserlen y gemau:

Sadwrn 1 Chwefror am 14:15 - Cymru v Yr Eidal

Sadwrn 8 Chwefror am 14:15 - Iwerddon v Cymru

Sadwrn 22 Chwefror am 16:45 - Cymru v Ffrainc

Sadwrn 7 Mawrth am 16:45 - Lloegr v Cymru

Sadwrn 14 Mawrth am 14:15 - Cymru v Yr Alban

Carfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad 2020:

Olwyr: G Davies (Scarlets), R Webb (Toulon), T Williams (Gleision), D Biggar (Northampton), O Williams (Caerloyw), J Evans (Gleision), H Parkes (Scarlets), N Tompkins (Saracens), O Watkin (Gweilch), G North (Gweilch), J Adams (Gleision), O Lane (Gleision), J McNicholl (Scarlets), L Rees-Zammit (Caerloyw), J Holmes (Leicester Tigers), L Halfpenny (Scarlets), L Williams (Saracens).

Blaenwyr: R Carre (Saracens), R Evans (Scarlets), W Jones (Scarlets), L Brown (Dreigiau), W John (Sale Sharks), D Lewis (Gleision), E Dee (Dreigiau), R Elias (Scarlets), K Owens (Scarlets), J Ball (Scarlets), A Beard (Gweilch), S Davies (Gleision), A W Jones (Gweilch, capt), W Rowlands (Wasps), C Hill (Dreigiau), A Shingler (Scarlets), A Wainwright (Dreigiau), J Navidi (Gleision), J Tipuric (Gweilch), T Faletau (Caerfaddon), R Moriarty (Dreigiau).