Cwyno am y broses o werthu fferm Cyngor Sir Penfro
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr oedd wedi gobeithio prynu fferm hynafol gan Gyngor Sir Penfro er mwyn sefydlu menter gymunedol yn anfodlon gyda'r broses o werthu'r safle.
Wedi i gais gan brynwr arall am fferm Trecadwgan gael ei dynnu'n ôl ym mis Tachwedd, gofynnodd y cyngor i Gymdeithas Trecadwgan wneud cais newydd am y safle, cyn y dyddiad cau ar 13 Rhagfyr.
Roedd ceisiadau am y safle yn rhai cudd, ac fe dderbyniodd y cyngor gais y gymdeithas, meddai'r aelodau, yn dilyn cais aflwyddiannus blaenorol.
Ond mae Cymdeithas Trecadwgan yn dweud fod asiant wedi cysylltu gyda'r grŵp ar 7 Ionawr gan ddweud fod prynwr arall wedi cynnig mwy o arian am y fferm erbyn hyn, gan ofyn a oedden nhw am gynyddu eu cynnig.
Dywedodd y gymdeithas fod y dyddiad cau ar gyfer bob cais wedi bod ar 13 Rhagfyr - ac felly roedd y cyngor, wrth dderbyn y cais newydd wedi'r dyddiad cau, wedi gweithredu mewn ffordd annheg.
Mewn ymateb i gwynion yr ymgyrchwyr, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro eu bod wedi "dilyn y broses gyfreithiol gywir".
Mewn datganiad, ychwanegodd y grŵp fod pryder am weddill y broses o werthu'r safle gan fod yn rhaid i'r awdurdod lleol ddilyn deddfwriaeth sy'n mynnu fod dyletswydd gyfreithiol arnyn nhw i dderbyn y pris gorau am eu hasedau.
Mae atodiad i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym yng Nghymru yn 2003 yn gwneud hi'n bosib i awdurdodau lleol werthu eiddo am lai na'r pris uchaf posib dan amgylchiadau arbennig heb orfod gofyn am sêl bendith gan y Cynulliad.
Mae Cymdeithas Trecadwgan eisiau datblygu menter gymunedol ar safle'r fferm i gynhyrchu bwyd ac i addysgu pobl am dechnegau ffermio.
'Y cais uchaf'
Ychwanegodd y datganiad fod aelodau'r gymdeithas yn pryderu am y broses o werthu'r safle, gan fod eu cynnig, "oedd wedi ei selio ac yn gudd, wedi bod yn llwyddiannus fel y cais uchaf mewn proses dendro agored, teg a chystadleuol o fewn cyfyngder amser arbennig".
Dywedodd Gareth Chapman, cadeirydd Cymdeithas Trecadwgan: "Ynghyd â'n cefnogwr ariannol, rydym wedi cymryd rhan yn y broses gydag ewyllys da gan gynnig cais cryf, ond mae gennym bryderon difrifol am ein rhan mewn proses ddiffygiol allai atal ceisiadau cwbl dderbyniol gennym ni neu gan ymgeiswyr eraill rhag cael eu cwblhau.
"Felly rydym yn galw ar Gyngor Sir Penfro i stopio'r broses a gweithio i geisio dod o hyd i ateb fyddai'n rhoi cyfle i bob cais sy'n cael eu derbyn yn y dyfodol i gael eu derbyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019