Parhau i daclo tân arall mewn ffatri ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr yn parhau i daclo tân mewn ffatri ger Wrecsam - y trydydd gwaith mewn llai na thair blynedd iddyn nhw gael digwyddiad o'r fath ar y safle.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i safle Kronospan yn Y Waun am 02:15 fore Llun, wedi i'r fflamau gynnau ger wal goed.
Dywedodd y cwmni, sydd yn cyflogi dros 600 o bobl ar y safle, na chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.
Cafwyd tân ger un o dyrrau'r ffatri ym mis Gorffennaf 2018, a hynny wedi tân mawr arall ym mis Medi 2017.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi creu bylchau yn y tân bellach, ond bod disgwyl iddyn nhw barhau i weithio ar y safle am gyfnod eto.
Ychwanegodd Kronospan mewn datganiad fore Mawrth fod y tân wedi cynnau yn yr iard bren, ac y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad llawn unwaith y bydd y fflamau wedi'u diffodd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2017