Ateb y Galw: Y cerddor Branwen Haf Williams
- Cyhoeddwyd
Y cerddor Branwen Haf Williams sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Deri Tomos yr wythnos diwethaf.
Mae Branwen yn aelod o'r bandiau Blodau Papur, Siddi a Cowbois Rhos Botwnnog, ac yn rhedeg y label cerddoriaeth I KA Ching.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Codi'n gynnar iawn ar fore Sadwrn gyda fy mrawd, Meilir, i ddwyn bisgedi o'r tin oren yn y gegin, mynd â nhw i'w bwyta tu ôl llenni y drws ffrynt, a bwyta gymaint ohonynt ag y medren ni cyn i Mam neu Dad ddeffro!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
'Dwn i ddim am ffansio, ond roeddwn i'n hanner addoli efeilliaid oedd yn byw drws nesa', am eu bod nhw'n rhannu eu Lego hefo fi.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Heblaw am fy ffrind, Lleucu, yn gwthio ei dwylo i fy ngheg ar ganol llawr ddawns rhyw glwb, yna chwarae gig ac aelod o'r gynulleidfa yn tynnu ei drowsys reit o fy mlaen!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mi grïes i dair gwaith yn gwylio'r sioe Dear Evan Hansen yn Llundain yn ddiweddar.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dw i wedi darganfod yn ddiweddar 'mod i'n gystadleuol iawn wrth gymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon - fe dynnais waed o wefus Rhys Gwynfor, y canwr, wrth chwarae pêl-fasged (yn ddamweiniol, wrth gwrs...!)
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Er fod 'na rannau o nghalon i dros Gymru i gyd, mae 'na ddau le go arbennig i fi. Wrth y Rayburn yn nhŷ Nain Amlwch yn gwrando ar ei straeon, a'r olygfa anhygoel gewch chi wrth fynd o Lanuwchllyn i Fwlch y Groes.
Mae 'na rywbeth am dirwedd Penllyn sy'n gwneud i mi deimlo'n saff.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Roedd cael perfformio yn Gig y Pafiliwn, Eisteddfod y Fenni, gyda cherddorfa'r Welsh Pops yn wefr a hanner.
Osian fy mrawd oedd wedi creu y trefniannau cerddorfaol ac roedd gweld torf fawr yn gwirioni yn brofiad sy'n aros yn y cof.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Aflonydd, gofalgar, gwladgarol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Yn ddi-os, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard - a'i ddarllen mewn un eisteddiad.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mi fyswn i'n rhoi'r byd i gael paned 'fo Ann Griffiths, y bardd a'r emynwraig, a chael holi sut y gwnaeth hi lunio'r fath gampweithiau.
O archif Ateb y Galw:
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n double-jointed yn fy mhengliniau ac mae gen i ofn morloi.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Nofio yn y môr yn Lan Môr Llan, Amlwch ac yna mynd am beint i'r Eagles, Llanuwchllyn, a gobeithio fod 'na griw yno yn barod i godi canu.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Ar hyn o bryd, Tir Na Nog gan Lleuwen oherwydd mod i'n uniaethu gyda delweddau'r gân.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Sgalops i ddechrau, cyri Thai melyn ac yna pwdin bara menyn gyda hufen iâ fanila.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Mi leciwn i fod yn aelod o'r teulu brenhinol, dim ond i gael gweld be' yn union maen nhw'n ei wneud drwy'r dydd!
Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?
Aled Wyn Hughes