Cwest: 60 achos prawf yn 'dderbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad ym maes carafanau Bae Trecco yn 2015

Mae uwch swyddog prawf wedi dweud wrth gwest i farwolaeth dyn gafodd ei lofruddio fod 60 o achosion prawf unigol yn bwysau gwaith "derbyniol" i un o'i swyddogion weithio arnyn nhw ar un tro.

Roedd Lucy Jones yn gyfrifol am oruchwylio gwaith y swyddog prawf Kathryn Oakley, oedd yn swyddog prawf i'r llofrudd David Braddon.

Cafodd Conner Marshall ei lofruddio gan Braddon mewn ymosodiad ym Mharc Carafannau Bae Trecco ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.

Cafodd Braddon ei garcharu am oes ym mis Mehefin 2015. Yn ystod yr ymosodiad roedd o dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf yn dilyn troseddau yn ymwneud â chyffuriau ac ymosod ar heddwas.

Wrth roi tystiolaeth i gwest Conner Marshall yn Llys y Crwner Pontypridd, dywedodd Lucy Jones, o Gwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru fod Kathryn Oakley yn "drylwyr iawn gyda manylion ac yn drefnus" ond fod angen cefnogaeth arni er mwyn "cefnogaeth a magu hyder".

Ychwanegodd fod pwysau gwaith Kathryn Oakley o 60 achos unigol yn addas i swyddog profiadol fel hi. Fe wnaeth hi wadu fod problemau gyda niferoedd staffio yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, ac roedd yn arferol rhoi mwy o achosion risg isel i swyddogion oedd ddim yn delio gydag unigolion oedd yn peri risg uchel.

Cafodd Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ei sefydlu ar ôl ailwampio'r 35 ymddiriedolaeth prawf yn y DU, gan greu 21 cwmni adsefydlu newydd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Braddon ei garcharu am oes am lofruddio Conner Marshall

'Cyfnod heriol iawn'

Fe ddisgrifiodd Lucy Jones y cyfnod o newid fel "cyfnod heriol iawn" ond nid oedd yn cytuno gyda gosodiad Katherine Oakley, oedd yn credu nad oedd digon o staff yng Nghwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru ar y pryd.

Roedd yn arferol i weithwyr weithio hyd at 18:00-19:00 meddai Lucy Jones, ond nid tan 21:00, fel yr oedd Ms Oakley wedi dweud wrth y cwest.

Gofynnodd Kirsten Heaven, bargyfreithwraig teulu Conner Marshall wrth Lucy Jones os oedd hi'n ymwybodol os oedd y tîm yng Nghaerffili wedi eu heffeithio gan bwysau gwaith ar y pryd.

Mewn ymateb, dywedodd Ms Jones: "Roeddwn i'n ymwybodol o'r data fod digon o ddarnau gwaith heb eu gweithredu, ac fe roddwyd cymorth i swyddogion. Roedd disgwyliad y byddai staff yn gorffen unrhyw waith oedd ar ôl, ac os na fyddai swyddog yn cwblhau ei waith yna fe fyddai cyfarfod atebolrwydd yn cael ei gynnal."

Clywodd y cwest yn gynharach yn yr wythnos fod gan David Braddon broblemau gyda chyffuriau ac alcohol, ac roedd wedi torri ei gytundeb prawf drwy fethu â mynd i gyfarfod triniaeth cyffuriau ac alcohol, ac roedd yn dal i yfed.

Gofynnodd Ms Heaven os y dylai Kathryn Oakley fod wedi gwneud ymdrech gwirioneddol i ffonio Mr Braddon i ddarganfod mwy.

Dywedodd Ms Jones mewn ymateb: "Mae disgwyliad y bydde chi'n cysylltu gyda rhywun achos mae ymgysylltu mor bwysig, ond nid wyf yn gwybod os wnaeth Kathryn ymdrechu i roi caniad iddo ac nad oedd wedi ateb a'i bod hi heb gofnodi hyn."

Mae'r cwest yn parhau.