Conner Marshall: 'Dim hawl' i deulu weld adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad ym maes carafanau Bae Trecco yn 2015
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall mewn ymosodiad ym maes carafanau Bae Trecco yn 2015

Mae teulu dyn ifanc a gafodd ei lofruddio gan droseddwr a oedd ar brawf wedi dweud wrth y cwest i'w farwolaeth bod eu cais i weld manylion goruchwyliaeth arno wedi ei wrthod.

Cafodd Conner Marshall, oedd yn 18 oed ac o'r Barri, ei guro i farwolaeth gan David Braddon, 26, ym mharc carafanau Trecco Bay ym Mhorthcawl ym mis Mawrth 2015.

Clywodd y cwest fod Braddon wedi troseddu ar sawl achlysur yn y gorffennol ac roedd yn destun dau orchymyn cymunedol ar y pryd, a hynny am ymosod ar heddwas a bod â chyffuriau yn ei feddiant.

Cafodd David Braddon ei garcharu am ei lofruddio Mr Marshall ond fe gafodd y cwest gwreiddiol ei ohirio tra roedd yr achos llys yn cael ei gynnal.

Yn ystod y cwest dydd Llun, clywodd y crwner fod Braddon wedi methu â mynychu sawl apwyntiad gyda'r gwasanaethau prawf yn y misoedd yn arwain at y lofruddiaeth, ac nad oedd aelodau'r gwasanaeth hwnnw yn gwybod fod ganddo record droseddol am guro cyn-bartner hefyd.

Dywedodd Nadine Marshall ei bod hi wedi cael gwybod bum mis wedi marwolaeth ei mab fod Braddon o dan oruchwyliaeth ar y pryd.

Bu'n rhaid iddi aros nes mis Ebrill 2016 i weld crynodeb o adroddiad y gwasanaeth prawf, ac roedd Cwmni Adfer Cymunedol Cymru wedi gwrthod sawl cais gan y teulu i weld yr adroddiad llawn.

Dim hawl cael copi o adroddiad

Dywedodd Ms Marshall: "Yn dilyn nifer o alwadau ffon a sawl ymweliad i'n cartref gan swyddogion o'r Cwmni Adfer, fe gawson ni gyfarfod gyda dyn a dynes a oedd yn fodlon dangos yr adroddiad i ni ar liniadur.

"Ches i ddim hawl i ddal y gliniadur nac i gael copi caled. Fe geisiais dynnu lluniau gyda fy ffon ond cafodd y gliniadur ei dynnu oddi arnaf, a dywedwyd wrtha i bod y cyfarfod ar ben."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nadine Marshall mae'r teulu'n teimlo eu bod nhw wedi methu ag amddiffyn Conner

Fe deithiodd Ms Marshall a'i gwr, Richard, i bencadlys y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Llundain i wneud cais am yr adroddiad, ond fe gawson nhw wybod nad oedd hawl ganddyn nhw ei dderbyn.

Ond y diwrnod wedyn dywedodd y weinyddiaeth y byddai'r teulu'n derbyn yr adroddiad yn llawn, ac fe gawson nhw gopi rai misoedd yn ddiweddarach, ym mis Tachwedd 2016.

Roedd David Braddon yn aros yn y maes carafannau gyda'i gyn-bartner a'i blant pan fu ffrae am gyn-gariad.

Cymerodd gyllell o'r gegin gan ddweud ei fod am fynd i chwilio am gyn-gariad ei hen gymar a'i ladd.

Fe gamgymrodd Conner Marshall am y cyn-gariad gan ymosod arno'n giaidd.

Yn ystod ei gyfweliad gyda'r heddlu fe ddywedodd David Braddon ei fod wedi ei wylltio'n gacwn, gan ddychwelyd i'w garafán gyda gwaed ar ei wyneb.

Cyfaddefodd ei fod wedi ymosod ar Conner Marshall gyda pholyn ac yna ei guro cyn ei ddadwisgo, er mwyn codi cywilydd arno.

Ffynhonnell y llun, Heddlu'r De
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd David Braddon ei garcharu am oes am lofruddio Conner Marshall

Clywodd y cwest hefyd gan Katherine Oakley, sy'n swyddog prawf gyda'r Cwmni Adfer. Dywedodd ei bod hi dan y don gyda'i gwaith.

Pan ofynnodd y crwner cynorthwyol, Nadim Bashir, wrthi a oedd hi wedi cynnal asesiad risg ar Mr Braddon, dywedodd Ms Oakley nad oedd hi wedi gwneud.

"Roedd llawer o bobl yn sâl yn y gwaith, llawer o newid o fewn y tîm rheoli a dim cysondeb.

"Roeddwn i weithiau'n gweithio ar 15-20 achos pob dydd ac o'r herwydd fe fethais â chynnal asesiad risg bob tro."

Dim meddyginiaeth

Mewn adroddiad gafodd ei ddarllen i'r llys, cafodd Braddon ei asesu fel risg canolig o achosi niwed difrifol i eraill.

Yn ystod ei chyfarfod cyntaf gyda Braddon fe ddywedodd wrth Ms Oakley fod ganddo record droseddol yn ymwneud ag achos o drais yn y cartref, ei fod yn dioddef o or-bryder ac iselder, ond ei fod wedi rhoi'r gorau i gymryd ei feddyginiaeth.

Wrth roi ei thystiolaeth dywedodd Ms Marshall fod y pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn erchyll iddi, ac roedd hi'n colli derbyn negeseuon testun bob nos ganddo oedd yn dweud "Nos da - caru chi".

Ychwanegodd fod yr holl deulu nawr yn llawn pryder a nerfus am y tasgau dyddiol mwyaf syml yn dilyn llofruddiaeth ei mab.

"Rwy'n teimlo ein bod wedi methu ag amddiffyn Conner, ond mae rhoi annibyniaeth i'ch plant wrth iddyn nhw dyfu i fyny mor bwysig ond yn anodd hefyd."

Dywedodd Ms Marshall fod Conner yn agos iawn at ei deulu ac roedd yn fachgen clên gyda chymeriad gofalgar.

Mae'r cwest yn parhau.