Nifer hunanladdiadau ieuenctid yng Nghymru yn 'sgandal'
- Cyhoeddwyd
Mae plant sydd mewn perygl o ladd eu hunain yng Nghymru yn dal i "syrthio trwy'r bylchau", yn ôl y Comisiynydd Plant.
Dywedodd Sally Holland fod rhai pobl ifanc yn cael eu "bownsio o amgylch y system", a galwodd am fwy o gydweithio.
Daeth y sylwadau wrth i'r elusen atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, Papyrus, agor ei swyddfa gyntaf yng Nghymru gyda rhybudd bod nifer yr hunanladdiadau ieuenctid yng Nghymru yn "sgandal".
Dywedodd Prif Weinidog Cymru bod "plethu rhwyd ddiogelwch" i bobl ifanc yn "gyfrifoldeb ar bawb".
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi £5m i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i blant yn yr ysgol.
Croesawodd Ms Holland yr ymrwymiad hwnnw ond rhybuddiodd: "Bydd rhai plant sydd angen mwy o gefnogaeth nag y gall yr ysgol neu'r gwasanaethau cyffredinol eu cynnig, a dyna lle mae angen i ni sicrhau nad ydyn nhw'n mynd ar goll yn y system.
"Mae plant yn tueddu yn aml nawr, gyda'u teuluoedd, i ddisgyn trwy'r bylchau fel eu bod yn eistedd ar restr aros am un wasanaeth, efallai'n cael eu troi oddi wrth hynny, yn cael gwybod i fynd i roi cynnig ar rywle arall… yr hyn y gallem ei ddweud yw cael ei bownsio o amgylch y system."
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Ms Holland wedi teithio ledled Cymru yn gofyn i ddarparwyr gwasanaethau gofal weithio gyda'i gilydd trwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol.
"Rwy'n falch o ddweud bod rhai rhanbarthau yn newid sut maen nhw'n ymateb i'r mathau hynny o alwadau am help yn gyflym fel eu bod nhw'n cael cefnogaeth yn gyflym iawn gan y bobl iawn yn ddigon buan, ond mae gan ardaloedd eraill dipyn o ffordd i fynd o hyd."
'Un yn ormod - 38 yn sgandal'
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol fe wnaeth 38 o bobl ifanc rhwng 10 a 24 oed ladd eu hunain yng Nghymru yn 2018.
O'i swyddfa newydd yng Nghaerdydd bydd Papyrus yn darparu cyngor dros y ffôn i bobl ifanc sy'n ystyried lladd eu hunain, a'r rhai sy'n poeni am berson ifanc.
Bydd yr elusen hefyd yn gwneud gwaith allanol gydag ysgolion a chlybiau ieuenctid.
Dywedodd pennaeth Papyrus yng Nghymru, Kate Heneghan: "Mae un [hunanladdiad] yn ormod, mae 38 yn sgandal.
"Rydyn ni'n gwybod po fwyaf o waith rydyn ni'n ei wneud yn ein cymunedau yng Nghymru, y mwyaf o alwadau rydyn ni'n eu derbyn i'n llinell gymorth gan bobl ifanc sy'n ei chael hi'n anodd, heb wybod ble i droi am gefnogaeth."
Dywedodd Ms Heneghan fod yr elusen wedi ymrwymo "i leoli Cymru fel arweinydd yn lles meddyliol ein pobl ifanc ac i leihau hunanladdiadau ifanc trwy godi ymwybyddiaeth bod gobaith a bod help".
Pan ofynnwyd a oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud digon yn y maes hwn, dywedodd Ms Heneghan: "Rydyn ni bob amser yn dweud nad yw'n ddigon, gellir gwneud mwy."
Wrth siarad yn agoriad swyddogol swyddfa newydd Papyrus, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Yr unig ffordd y gallwn ni blethu rhwyd ddiogelwch sy'n ddigon cryf i estyn allan at y bobl ifanc hynny sydd wedi cyrraedd y pwynt enbyd hwnnw yn eu bywydau yw trwy ei wneud yn gyfrifoldeb ar bawb."
Mae Papyrus hefyd yn cefnogi teuluoedd mewn profedigaeth.
Ddydd Mercher bydd Aelodau Cynulliad yn trafod faint o gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd sydd wedi colli plentyn oherwydd hunanladdiad.
Dywedodd Lynne Neagle, Cadeirydd Pwyllgor Pobl Ifanc y Cynulliad: "Mae'n hanfodol bwysig, nid yn unig am fod profedigaeth hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol, ond hefyd oherwydd ein bod yn gwybod bod pobl mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o farw trwy hunanladdiad eu hunain.
"Mae cefnogaeth i bobl mewn profedigaeth trwy hunanladdiad yn atal hunanladdiad ynddo'i hun."
'Trasiedi lwyr'
Roedd mab Gemma Bowen, Alfie, yn 14 oed pan fu farw drwy hunanladdiad yn 2018.
"Roedd yn fachgen hyfryd," meddai. "Roedd yn glyfar iawn. Roedd wedi magu llwyth o ffrindiau yn ei ysgol newydd.
"Roedd yn ddyn ifanc talentog, artistig iawn, yn feddylgar iawn."
Mae Gemma wedi bod yn codi arian i Papyrus ers marwolaeth Alfie ac mae'n falch bod yr elusen wedi agor swyddfa yng Nghymru.
"Rydw i wedi bod yn edrych allan iddyn nhw ddod i Gymru ac i gwrdd â'r tîm. Rwy'n credu ei bod hi'n wych ei fod yn mynd i dynnu sylw at broblem hunanladdiad ifanc yng Nghymru.
"Mae nifer y bywydau ifanc sy'n cael eu colli yn drasiedi lwyr."
Wales Politics, BBC1 Cymru, 10:00 ddydd Sul 19 Ionawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019