AS Ceidwadol wedi 'rhannu swyddfa â gwefan SugarDaddy'

  • Cyhoeddwyd
Jamie Wallis

Mae dau gyn-weithiwr wedi dweud wrth BBC Cymru fod yr AS Ceidwadol Jamie Wallis yn gweithio yn yr un swyddfa a lleoliad gwefan SugarDaddy.net.

Mae AS newydd Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwadu fod ganddo gysylltiad â'r wefan.

Ond mae hynny'n "amlwg" yn cael ei wrth-ddweud gan gofnodion y cwmni, meddai Tonia Antoniazzi, AS Llafur dros ardal Gŵyr.

Dywedodd un cyn-aelod o staff oedd yn gweithio i Mr Wallis ei fod yn "ymwybodol" bod y safle we yn cael ei redeg o'r swyddfa yr oedd yn gweithio ynddi.

Dywedodd un arall fod sylwadau Mr Wallis "yn hollol brin o hygrededd".

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â Jamie Wallis dro ar ôl tro i gael sylwadau ond dywedwyd "nad oedd ar gael".

'Y wefan ar y sgrin yn y gwaith'

Roedd busnes Sugar-Daddy.net yn cynnig cyfle i bobl ifanc oedd angen arian i gwrdd ag unigolion cyfoethog.

Yn eu disgrifiad roedd y wefan yn dweud: "Fe allwn ni eich cyflwyno i'ch sugar daddy personol er mwyn datrys eich problemau ariannol.

"Yn fachgen neu yn ferch, yn hoyw neu yn hetro, mae yna sugar daddy i chi."

Dywedodd Mr Wallis fod gwefan Sugar-Daddy.net yn ymddangos fel petai'n cael ei rhedeg gan gwmni o'r enw SD Billing Service Limited.

"Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, dydw i erioed wedi bod â diddordeb ariannol neu'n gyfarwyddwr ar SD Billing Services Limited ac ni allaf wneud sylw ar eu gweithredoedd," meddai wrth BuzzFeed News.

Tonia Antoniazzi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tonia Antoniazzi fod y wefan yn "ddiraddiol" ac "ecsbloetiol"

Mae Mr Wallis wedi ei restru yn Nhŷ'r Cwmnïau fel unigolyn sydd gyda rheolaeth sylweddol o Fields Group Ltd.

Fields Group Ltd oedd unig gyfranddaliwr SD Billing Services rhwng Hydref 2007 a Hydref 2010 - ac yn ystod y cyfnod yma roedd Mr Wallis yn gyfarwyddwr a chyfranddaliwr ar Fields Group.

Mae Fields Group wedi gweithredu nifer o fusnesau o swyddfa ym Mhencoed y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr.

Mae dau o gyn-weithwyr y busnesau hynny fu'n gweithio mewn swyddfa gyda Jamie Wallis wedi dweud wrth raglen Politics Wales y BBC fod Sugar-Daddy.net hefyd yn cael ei redeg o'r swyddfa honno.

Dywedodd un cyn-weithiwr: "Nid yw'n gredadwy meddwl nad oedd [Mr Wallis] yn gwybod am y wefan oherwydd roedd i fyny yno ar y sgrin [yn y swyddfa].

"Byddai'n ymwybodol, roedd bob amser yn y cyfarfodydd rheoli gyda phawb arall a dyna pryd maen nhw'n siarad am sut mae eu busnesau yn mynd.

Jamie Wallis
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jamie Wallis gipio etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr oddi ar Lafur yn Rhagfyr

"Dim ond un brif swyddfa oedd hi, cwpl o swyddfeydd llai oddi arni ar un llawr. Nid oedd yn swyddfa fawr, byddwn i'n dweud bod tua 20 o bobl ynddi ar y prif lawr. Roedd pawb yn adnabod ei gilydd.

"Roedd e [Sugar-Daddy.net] ar y sgrin. Fe'i gwelais lawer gwaith ar y sgrin."

Ychwanegodd: "Roedd yn rhaid iddo fod yn ymwybodol - wrth gerdded trwy'r swyddfa, byddai'n ei weld ar y sgrin."

Dywedodd cyn-weithiwr arall: "Roedd Sugar Daddy yn cael ei redeg o swyddfa Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd Jamie yn ymwybodol ohono ac roedd yn iawn gyda'r peth.

"Roedd yn ei ystyried yn fodel busnes da. Nid oedd ganddo unrhyw bryderon ac ni chododd unrhyw faterion ynghylch moeseg y peth."

Herio'r cyngor

Fe adroddodd BuzzFeed News fod deg o gwmnïau lle'r oedd Mr Wallis yn gyfarwyddwr neu'n gyn-gyfarwyddwr yn destun dros 800 o gwynion i'r adran safonau masnach rhwng Ionawr 2007 a Chwefror 2017, yn ôl Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd y cyngor fod y cwmnïau wedi bod yn destun ar 20 ymweliad gorfodaeth.

Fe ddywedodd Mr Wallis wrth BuzzFeed mai "nonsens" oedd y ffigyrau a'i fod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr fod yr awdurdod wedi derbyn "llythyr cyn cam cyfreithiol" gan Fields Group Limited ond nid oedd modd gwneud unrhyw sylw pellach o achos y "posibilrwydd o anghydfod cyfreithiol".

Wrth siarad ar Sky News ddydd Sul dywedodd cadeirydd y blaid Geidwadol, James Cleverly, nad ei swydd ef oedd ymchwilio i'r cysylltiadau honedig rhwng Mr Wallis a SugarDaddy.net.

Ychwanegodd nad oedd ef yn bersonol yn "gyfforddus" â natur y wefan, ond bod unrhyw "drefniadau busnes" oedd gan ASau yn disgyn tu hwnt i'w gyfrifoldebau fel cadeirydd.

"Os ydy e wedi gwneud rhywbeth o'i le fe fydd y chwipiau yn edrych ar y peth," meddai Mr Cleverly.

"Ond ar hyn o bryd dwi ddim yn ymwybodol ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le, a does gen i ddim y manylion llawn am ei berthynas ef a'r busnesau yma."

Politics Wales, BBC1 Cymru, 10:00 ddydd Sul, 19 Ionawr