Lluoedd Cymru eisiau gynnau Taser i fwy o swyddogion

  • Cyhoeddwyd
gwn TaserFfynhonnell y llun, PA Media

Gallai mwy o swyddogion heddlu yng Nghymru fod yn cario gynnau Taser yn y dyfodol, yn dilyn cais gan y pedwar llu am gyllid o Lywodraeth y DU.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud y byddan nhw'n rhoi £10m tuag at ariannu mwy o ynnau Taser, a hynny oherwydd nifer cynyddol o ymosodiadau ar swyddogion.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones ei fod eisiau i'r "rhan fwyaf" o heddweision rheng flaen fod yn cario rhai.

Ond mae rhai grwpiau hawliau dynol wedi dweud bod angen cyfyngu ar y defnydd o arfau o'r fath.

Cosbau llymach

Pwrpas gynnau Taser ydy gallu saethu sioc drydanol sydyn o bellter er mwyn atal rhywun.

Bydd yn rhaid i'r lluoedd heddlu ddweud faint o swyddogion sydd angen eu hyfforddi i ddefnyddio'r teclynnau wrth wneud cais am arian, gyda cheisiadau llwyddiannus yn dibynnu ar lefel y bygythiad ym mhob ardal.

"Mae'n swyddogion dewr yn peryglu'u hunain i'n hamddiffyn ni, ac rydw i'n benderfynol o roi'r offer sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn eu cadw'n saff," meddai'r ysgrifennydd cartref Priti Patel.

Dywedodd Mr Jones fod angen i heddweision allu amddiffyn eu hunain ar y stryd, ac y dylai cosbau llymach gael eu rhoi i'r rheiny sy'n ymosod arnynt.

Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu'r De, Alun Michael, y byddai presenoldeb swyddog gyda Taser yn aml yn ddigon i annog pobl i beidio troseddu.

Ond mae grwpiau fel Amnesty International wedi rhybuddio am ddefnyddio'r teclynnau, gan ddweud mai dim ond swyddogion arbenigol ddylai eu defnyddio.

"Mae Tasers yn arfau allai ladd, ac mae nifer o beryglon ynghlwm a'u defnydd yn enwedig os ydyn nhw'n cael eu camddefnyddio," meddai Oliver Feeley-Sprague o'r mudiad.