'Dwi methu witsiad i fynd i'r gwaith' - bysgiwr yn y brifddinas
- Cyhoeddwyd
Dair blynedd yn ôl, penderfynodd Martin Jones, o Nefyn, godi ei bac a symud i Gaerdydd er mwyn bysgio.
Nid yw'n difaru'r penderfyniad am eiliad, ac yn ysu bob bore i ddechrau canu a pherfformio i siopwyr y brifddinas.
"Dwi methu witsiad i fynd i'r gwaith. Dwi'm yn gweld o'n anodd o gwbl codi'n y bora, achos dwi wrth fy modd yn g'neud hyn.
"Dwi'n g'neud yn well ac yn well... 'sa ti'n meddwl bo' nhw'n fed-up ohona i erbyn hyn! Mae'n le da. Mae Caerdydd yn spot-on o le.
"Mae'r buskers i gyd yn gweithio efo'i gilydd. Awn ni ddwyawr wedyn symud ymlaen - 'dan ni gyd yn mêts 'ma.
'"Di trwbwl ddim yn digwydd yn aml, ond petha' neis... Dwi'n cofio bysgio yn Queen Street, ac o'n i'n chwarae cân, a 'nath 'na hogyn bach efo Down's Syndrome redeg ata i. 'Nath o hygio fi, am ddwy gân, a 'nath o'm gollwng fi - o'dd o'n gafal yn dynn, yn gwenu'n braf. Ac o'dd ei dad o o mlaen i yn crio. Hynna sy' 'di sticio efo fi.
"'Swn i'n ddeud i rywun sy'n meddwl cychwyn bysgio... IDDI! Go for it, achos ma' opportunities, ma' pobl wrth eu boddau, ma'r incwm yn grêt - ma'n briliant!"
Gwyliwch y fideo uchod i glywed mwy o stori Martin.
Hefyd o ddiddordeb: