Gobaith creu 'asgwrn cefn' o fusnesau cefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
LuingFfynhonnell y llun, Eidion Luing Cymreig

Bydd clwb busnes gwledig sy'n gobeithio creu "asgwrn cefn" o fusnesau i gefn gwlad yn cyfarfod am y tro cyntaf yn ddiweddarach.

Nod Clwb Busnes Hiraethog ydy rhoi hwb i'r amrywiaeth o fusnesau bach a chanolig yn yr ardal.

Mae cynghorydd fuodd yn rhan o sefydlu'r clwb yn dweud y bydd yn gyfle i bobl fusnes gyfarfod ei gilydd, gwrando ar siaradwyr dylanwadol a chreu rhwydweithiau.

Dywedodd un ddynes fydd yn y cyfarfod ei fod yn gyfle "gwych" i gyfarfod pobl fusnes eraill.

Ffynhonnell y llun, Eidion Luing Cymreig
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwartheg Luing yn hannu o'r Alban, ac felly'n gallu ymdopi gyda bywyd ar ucheldir Cymru

Un o fusnesau'r ardal ydy cwmni Cig Eidion Luing, sef busnes gwerthu cig Iwan ac Eleanor Davies o Fferm Hafod y Maidd yng Nglasfryn.

Mae'r teulu yn cadw gwartheg brîd Luing, sy'n "groes rhwng gwartheg ucheldir Yr Alban a gwartheg Shorthorn".

Ychwanegodd Eleanor Davies: "Maen nhw'n wartheg sy'n ffynnu ar dir uchel ac yn byw allan sy'n siwtio'n grêt i'n ffarm ni yn Hafod y Maidd.

"'Da ni'n gwerthu'r cig yn uniongyrchol i'r cwsmer… Nathon ni gychwyn yn 2015 lle roedden ni'n gwerthu'r cig, torri fo ac yn pacio fo yn ffres felly, ac yn mynd o amgylch marchnadoedd ffermwyr.

"Ac yn 2017 nathon ni benderfynu ehangu'r busnes drwy goginio'r cig ac wedyn mae gennym ni fwy o gyfle wedyn i fynd i fwy o farchnadoedd a gwyliau bwyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gaenor Roberts yn rhedeg ei busnes gemwaith o'i chartref yn Llanfair Talhaiarn

Cwmni gwahanol iawn sydd gan Gaenor Roberts yn gwerthu gemwaith, ond unwaith eto mae'r cwmni'n cael ei redeg o'i chartref yn Fferm Plas Bela yn Llanfair Talhaiarn ger Abergele.

Mae hi'n gwerthu pob math o emwaith dros y we, a chyn y cyfarfod ym Mhentrefoelas dywedodd fod y clwb busnes yn syniad da iawn.

"Syniad gwych, ellith bobl sydd yn byw yng nghefn gwlad ddod at ei gilydd i siarad a rhwydweithio, trafod be' 'di'r sialensiau, mae 'na wahanol sialensiau o fod yn rhedeg busnes yng nghefn gwlad o'i gymharu â mewn tref fawr, felly mae'n gyfle i drafod mewn ffordd."

'Busnes cefn gwlad yn unig'

Y cynghorydd sir lleol, Garffild Lloyd Lewis gafodd y syniad o sefydlu'r clwb busnes, a dywedodd ei fod yn gyfle i gymdeithasu yn ogystal â thrafod busnes.

"Mae 'na ddegau, ugeiniau o gwmnïau bach a chanolig yn yr ardal i gyd yn ardal Hiraethog, a llawer ohonyn nhw wedi dweud wrtha i dros y blynyddoedd y basa nhw'n licio cyfle i gyfarfod felly dyna ydy nod heno ydy cyfarfod, cael cyfle i wrando ar siaradwyr dylanwadol ym maes busnes ac i'r dyfodol hefyd cyfle i sefydlu rhwydweithiau, gobeithio, o fusnesau sydd yn mynd i roi asgwrn cefn i ni yn yr ardaloedd cefn gwlad yma."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal â thrafod busnes, mae'r clwb yn gyfle i gymdeithasu, yn ôl Garffild Lloyd lewis

Ychwanegodd: "Mae 'na lot o bryder, mae cynnal busnes yng nghefn gwlad yn fusnes unig iawn, iawn.

"Llawer o amaethwyr yn dweud yr un fath a ma' nhw isio cyfle falle i fynd allan o'r gweithle, o'u cartrefi yn aml iawn i rywle i gymdeithasu.

"Felly dyma'r nod, cael pobl at ei gilydd, cyfle i gymdeithasu, cyfle iddyn nhw rannu gwybodaeth a rhannu syniadau hefyd."

Bydd Clwb Busnes Hiraethog yn cwrdd am 19:00 yn Nhafarn Y Foelas Arms, Pentrefoelas.