TB: Pryderon am nifer o wartheg iach yn cael eu difa

  • Cyhoeddwyd
Keith Pugh
Disgrifiad o’r llun,

Mae 72 o wartheg wedi eu lladd ar fferm Keith Pugh mewn llai na blwyddyn

Mae yna alwadau am adolygiad brys o bolisi Llywodraeth Cymru i geisio gwaredu'r diciâu (TB) mewn gwartheg, gyda phryderon bod nifer fawr o anifeiliaid iach yn cael eu difa.

Cafodd 12,742 o wartheg eu difa yn y flwyddyn hyd at fis Hydref 2019, yn ôl ffigyrau sydd newydd gael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae hynny yn gynnydd o 24% ar y flwyddyn flaenorol.

Mae fferm Keith Pugh, ffermwr llaeth o Pentregat ger Llandysul, wedi bod dan "fesurau ychwanegol" ers mis Ebrill 2019.

Ers hynny mae 72 o wartheg wedi cael eu difa, gyda dim ond 51 ar gael bellach i'w godro.

Mae "mesurau ychwanegol" yn cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar ffermydd ble mae yna broblemau difrifol gyda'r diciâu am gyfnod o 18 mis neu fwy.

Mae'r fuches yn cael ei phrofi yn fwy rheolaidd, ac mae'r canlyniadau'n cael eu dehongli mewn modd llawer mwy llym.

Mae anifeiliaid gyda chanlyniadau amhendant yn cael eu difa yn ogystal â'r rheiny sy'n profi'n bositif am y clefyd.

'Angen ail brawf'

Dywedodd milfeddyg Mr Pugh, Robert Price-Jones, bod y mesurau hyn wedi arwain at golledion dychrynllyd ar rai ffermydd.

Mae'n dweud bod ffigyrau'r asiantaeth iechyd anifeiliaid APHA yn awgrymu mai dim ond 38% o wartheg gyda chanlyniadau amhendant sydd yn datblygu TB yn y pen draw.

Mae Mr Price-Jones wedi galw am ail brawf rheolaidd ar gyfer gwartheg sydd â chanlyniad amhendant ar ôl y prawf cyntaf.

Cafodd 16 o wartheg Mr Pugh ail brawf gwaed ym mis Rhagfyr, ar ôl canlyniadau amhendant yn y prawf croen cyntaf.

Roedd 15 ohonyn nhw'n glir ar yr ail brawf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Robert Price-Jones fod angen i'r llywodraeth weithredu ar frys

Mae Mr Price-Jones wedi galw hefyd am adolygiad o'r polisi i waredu TB, gan alw am ymchwil pellach ar ledaeniad TB ymhlith bywyd gwyllt, sy'n cynnwys moch daear.

Ategwyd yr alwad honno gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies AC.

"Dwi'n pryderu yn fawr iawn o weld y cynnydd," meddai.

"Mae'n amlwg fod polisi Llywodraeth Cymru ddim yn gweithio. Mae'n bwysig i'r llywodraeth edrych ar ei pholisi a newid cyfeiriad."

Yn ôl Keith Pugh, mae'n rhaid i'r adolygiad "ddigwydd ar frys" am fod yna dystiolaeth glir nad yw'r polisi yn gweithio.

Ymateb y llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein rhaglen dileu TB wedi'i hadeiladu ar sylfaen dystiolaeth gadarn, ac rydym yn ceisio diweddaru ein dull yn barhaus gan fod canfyddiadau ymchwil yn ein galluogi i wneud hynny.

"Ers 1 Ionawr mae pob buwch... yn derbyn profion atodol gyda phrofion amgen, er mwyn lleihau'r nifer sy'n cael eu lladd, wrth sicrhau bod gwartheg sydd wedi'u heintio yn wirioneddol yn cael eu hadnabod a'u symud yn ddi-oed.

"Er mwyn sicrhau bod y dull hwn yn gymesur ac yn bosibl ei gyflawni, ac yn cael ei ddeall gan y rhai sy'n cael eu heffeithio, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â milfeddygon preifat wrth i ni ddatblygu'r protocol diwygiedig hwn.

"Rydym yn asesu'n barhaus y polisi difa moch daear sy'n cael ei weithredu yn Lloegr. Mae'r dystiolaeth yn amhendant ac yn cael ei chymryd yn ei chyfanrwydd, nid yw'n cyflwyno achos cryf dros ddifa moch daear fel ffordd o leihau TB mewn gwartheg."