Marwolaeth bwa croes: Data'n 'datgelu lleoliad car'
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio'r pensiynwr Gerald Corrigan wedi gweld tystiolaeth sydd yn cysylltu cerbyd Land Rover Discovery gyda lleoliad y drosedd.
Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, wedi digwyddiad y tu allan i'w dŷ ger Caergybi ar 19 Ebrill 2019 pan aeth i drwsio'r lloeren.
Roedd wedi ei saethu gan fwa croes, a bu farw yn yr ysbyty ym mis Mai.
Mae'r diffynnydd Terence Michael Whall, 39 oed o Fryngwran, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth â thri diffynnydd arall - Darren Jones, 41 o Benrhosgarnedd, Martin Roberts, 34 o Fangor, a Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae'r pedwar diffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Saeth bwa croes
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, clywodd y llys fod gwaed wedi ei ddarganfod tu mewn a thu allan i dŷ Gerald Corrigan, ac roedd "llwybr" o waed drwy'r ystafell fyw yn arwain i fyny'r grisiau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Brian Kearney o Heddlu Gogledd Cymru fod y llu wedi gallu prynu arf tebyg i'r un oedd wedi ei ddefnyddio yn y llofruddiaeth oddi ar wefan Amazon, a'r arf yn dod o China.
Clywodd y llys nad oedd yr union saeth bwa croes YLA 20 modfedd fel yr un a ddefnyddiwyd i ladd Mr Corrigan ar gael ar y we, felly fe wnaeth swyddogion brynu saeth debyg oedd yn 18 modfedd o hyd.
Roedd y saeth yn ddu ag oren, gydag adenydd gwyn. Disgrifiodd Brian Kearney llafnau'r saeth fel rhai "miniog fel rasel".
Cafodd bwa croes a saeth tebyg i'r rhai gafodd eu defnyddio eu dangos i'r rheithgor.
Delweddau
Yn gynharach ddydd Iau, dangosodd y ditectif gwnstabl Matthew Corcoran o Heddlu Gogledd Cymru ddelweddau Google Earth o Ynys Môn, yn cynnwys cyfeiriad Terence Whall a'r ardal o amgylch cartref Gerald Corrigan, Gof Du.
Clywodd y rheithgor fod delweddau o gamera CCTV ar barc carafannau cyfagos ger tŷ Mr Corrigan hefyd wedi recordio symudiadau ger Gof Du yn y pellter.
Yn gynharach yn yr achos, clywodd y rheithgor fod car Land Rover, a oedd yn cael ei ddefnyddio gan bartner Mr Whall, wedi cael ei ddarganfod mewn hen chwarel ger Bangor wedi ei losgi'n ulw.
Roedd hyn bythefnos wedi i Mr Whall gael ei holi gan yr heddlu am fod a bwa croes yn ei feddiant.
Cyfarpar GPS
Cafodd cyfarpar GPS y car ei ddifrodi yn y tân ond fe ddangosodd gwybodaeth dechnegol oedd wedi dod i law Jaguar Land Rover fod y cerbyd wedi teithio at dŷ Mr Corrigan ar noson 17 Ebrill ac yna ymlaen i draeth Porthdafarch.
Dadl yr erlyniad yw mai taith i flaengynllunio'r ymosodiad oedd y daith hon.
Wrth fanylu ar y data technegol oedd wedi ei gasglu gan Jaguar Landrover, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Matthew Corcoran fod injan y cerbyd wedi ei thanio am 21:20 ar 17 Ebrill, ac yna fe gafodd yr injan ei diffodd am 21:42 pan roedd y cerbyd ger Gof Du.
Yn ddiweddarach, dangosodd y data fod un o ddrysau'r car a drws cefn y cerbyd wedi ei agor a'i gau nifer o weithiau, ac roedd delweddau o'r camera CCTV cyfagos yn dangos golau yn dod ymlaen ac yn cael ei ddiffodd yng nghartref Mr Corrigan.
Ar 18 Ebrill, dangosodd y data fod drws a drws ôl y cerbyd wedi ei agor am 22:00. Am 22:50 fe agorwyd y drws ôl ac fe gafodd yr injan ei thanio.
Erbyn 23:10 roedd y cerbyd ym maes parcio traeth Porthdafarch.
Dywedodd yr heddwas wrth y llys fod cwmni SKY TV wedi cadarnhau fod signal lloeren yn bodoli yn Gof Du am 00:08 yn gynnar ar fore 19 Ebrill. Fe ddywedodd SKY hefyd nad oedd signal lloeren yn bresennol yn y tŷ erbyn 00:28.
Dangosodd ddelweddau camera CCTV o'r parc carafanau cyfagos fod golau wedi dod ymlaen yn y tŷ deirgwaith mewn amser byr yn fuan wedyn.
Galwad frys
Clywodd y llys fod cymar Mr Corrigan, Marie Bailey, wedi galw am gymorth y gwasanaeth ambiwlans am 00:34.
Cafodd darn o'r sgwrs ei chwarae yn y llys, lle dywedodd Marie Bailey fod Mr Corrigan yn ymwybodol, ond "ei fod yn gwaedu'n eithaf trwm".
Am 00:42 cafodd drws ôl y Landrover ei agor a'i gau ac fe gafodd yr injan ei thanio.
Dangosodd delweddau camera CCTV y cerbyd yn teithio i ffwrdd o'r traeth.
Erbyn 00:57, cafodd injan y cerbyd, oedd bellach yn nhŷ Mr Whall, ei diffodd.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019