Dyn yn ddieuog o ddynladdiad yn dilyn ffrae yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Philip James Long a'i wraig HayleyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Philip James Long ar ôl cael ei daro yn ystod noson allan gyda'i wraig, Hayley

Mae rheithgor wedi cael dyn ifanc o sir Wrecsam yn ddieuog o ddynladdiad tad i bedwar o blant oedd wedi ceisio atal sgarmes rhwng criw o bobl ifanc yn ystod noson allan gyda'i wraig.

Roedd Matthew Curtis, sy'n 18 oed ac o Wersyllt, yn gwadu dynladdiad Philip James Long ym mis Awst y llynedd.

Bu farw'r gŵr 36 oed o Marchwiel o ganlyniad i syrthio'n ôl a tharo'i ben ar y ddaear ar ôl cael ei ddyrnu unwaith yn ystod y digwyddiad yng nghanol Wrecsam.

Dywedodd Mr Curtis ei fod wedi taro Mr Long gan ofni ei fod ar fin ymosod ar un o'i ffrindiau, ond doedd dim bwriad i'w anafu.

Clywodd Llys Y Goron Yr Wyddgrug bod Mr Long wedi trefnu'r noson allan fel syrpréis i'w wraig, Hayley, i ddathlu eu hail ben-blwydd priodas.

Roedden nhw'n ceisio cael tacsi yn Ffordd y Coleg yn oriau mân ddydd Sul, 4 Awst ac wedi mynd heibio criw o bobl ifanc pan welson nhw sgarmes ble roedd dynes yn taro dyn.

'Rhesymol a chymesur'

Dywedodd Mr Curtis wrth y rheithgor bod Mr Long wedi mynd atyn nhw i geisio helpu, ond ei fod ar un pwynt "wedi ei cholli hi", gan wthio un o'i ffrindiau i'r llawr.

Oherwydd hynny, meddai, fe darodd e yn ei wyneb unwaith gyda'i ddwrn chwith, gan ofni fod Mr Long yn mynd i ymosod arno eto.

Mynnodd bod yr hyn a wnaeth yn "rhesymol" ac "yn gymesur".

Bu farw Mr Long o anafiadau "catastroffig" yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke ar 6 Awst, er gwaethaf ymdrechion i achub ei fywyd.

Fe wnaeth archwiliad post-mortem ddangos anaf sylweddol i'w benglog, gwaedlif yn yr ymennydd a thystiolaeth o ddwrn nerthol i'w lygaid chwith.

Roedd Mr Curtis dan deimlad pan gyhoeddodd y rheithgor eu dyfarniad wedi llai na thair awr o ystyried y dystiolaeth.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands fod teulu Mr Long wedi ymddwyn yn urddasol ac yn faddeugar yn ystod yr achos, gan ychwanegu ei gydymdeimladau atyn nhw.