Benthyciad dadleuol i gwblhau datblygiad gwesty moethus
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr wedi cytuno i roi benthyciad i berchnogion y Gyfnewidfa Lo ym Mae Caerdydd er mwyn iddyn nhw gwblhau'r gwaith o droi'r adeilad yn westy moethus.
Agorwyd rhan o'r gwesty The Exchange yn 2017 ar ôl gwaith adnewyddu gwerth miliynau o bunnau gan y cwmni datblygu dadleuol, Signature Living.
Roedd Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty wedi galw ar y cyngor i wrthod cais Signature am fenthyciad, yn sgil pryderon am gefndir ariannol a busnes perchennog y cwmni, Lawrence Kenwright.
Dywedodd Mr Kenwright bod y cwmni "wrth ei boddau" bod yr arian wedi'i sicrhau a'u bod yn gobeithio y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ym mis Ebrill.
Y gred yw bod y benthyciad werth rhyw £2m ac fe gymeradwyodd Cyngor Caerdydd y benthyciad ar sail "amodau llym" i ddiogelu buddsoddiad yr awdurdod.
'Gweld dim o'r arian'
Buddsoddiad preifat sydd wedi bod yn gyfrifol am ariannu rhan o'r gwaith adnewyddu ar yr adeilad, sydd ymysg y pwysicaf o adeiladau hanesyddol Cymru.
Fel rhan o'r cynllun, roedd buddsoddwyr yn prynu ystafelloedd unigol yn y gwesty am ddegau o filoedd o bunnau.
Roedd yr ystafelloedd wedyn yn cael eu benthyg yn ôl i'r perchnogion, gyda buddsoddwyr yn cael elw oddeutu 8% yn flynyddol - gyda'r cyfle i werthu'r ystafelloedd yn ôl i'r perchnogion yn y pen draw.
Fodd bynnag, mae nifer o'r buddsoddwyr wedi dweud wrth BBC Cymru nad ydyn nhw wedi gweld dim o'r arian ers dros flwyddyn.
Yn ôl Stephen Doughty AS, mae nifer o fuddsoddwyr wedi cysylltu ag o yn mynegi pryderon. Mae hefyd yn dweud ei fod wedi derbyn cwynion gan etholwyr ac eraill.
"Dwi wedi mynegi pryderon ynglŷn â Signature Living a Mr Kenwright a'i weithgareddau busnes yn y gorffennol a'i gefndir ariannol ers dros bedair blynedd ac rwy wedi cyfathrebu'r rheiny yn glir iawn i swyddogion y cyngor ac i arweinydd blaenorol y cyngor," meddai Mr Doughty.
"Mae gen i bryderon difrifol ynglŷn â'r berthynas gyda Mr Kenwright heb fod rhai amddiffyniadau sylweddol mewn grym.
"Yn amlwg dyw e ddim wedi cadw at rhai o'i addewidion o ran y datblygiadau a'i allu i'w cwblhau nhw a dyle hynny gael ei ystyried o ddifrif cyn penderfynu os i fwrw 'mlaen gydag unrhyw berthynas gydag ef yn y dyfodol.
"Rydw i wedi codi nifer o bryderon difrifol iawn ynglŷn â Mr Kenwright a Signature Living yn y gorffennol.
"Yn anffodus ni wrandawyd ar rheiny a nawr ni mewn sefyllfa lle dyw buddsoddwyr ddim wedi cael eu talu a dyw'r adeilad ddim wedi ei gwblhau, yn ogystal â chyfres o gwynion eraill yn cael ei gwneud i mi gan drigolion lleol."
'Cytuno mewn egwyddor'
Mae ymgyrchwyr treftadaeth hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â dyfodol y gyfnewidfa lo.
"Mae o arwyddocâd enfawr i Gaerdydd oherwydd ei ran mewn sefydlu'r dref Fictoraidd, y Brifddinas nawr ac felly o bwysigrwydd enfawr i Gymru," meddai Dr Elaine Davey o Gymdeithas Dreftadaeth Caerdydd.
Mae Dr Davey'n dweud ei bod wedi ysgrifennu llythyr i'r corff treftadaeth, Cadw ynglŷn â'i phryderon.
Fe gafodd y cais am y benthyciad am hanner yr arian sydd ei angen - gyda'r hanner arall yn cael ei roi gan y cwmni - ei wneud trwy gronfa benthyciadau canol trefi Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod Llywodraeth Cymru wedi "cytuno mewn egwyddor, yn ddibynnol ar waith craffu'r cyngor".
Bydd y gwaith pellach yn ychwanegu 117 o ystafelloedd i'r 56 sydd yn y gwesty'n barod.
Mae amodau gyda'r benthyciad yn golygu y bydd yn cael ei dalu mewn camau a bydd cadarnhad annibynnol bod yr arian yn cael ei wario ar y gyfnewidfa lo.
'Cyffrous ofnadwy'
Dechreuwyd y gwaith ar y safle yn 2016 ac fe agorwyd y rhan gyntaf o'r gwesty, sy'n cynnwys ystafelloedd, neuadd fawr, bar newydd a bwyty yn 2017.
Dywedodd y cyngor y bydd y rhan olaf "yn cwblhau pob un o'r 173 o ystafelloedd gwely a bydd tu allan yr adeilad wedi ei drwsio a heb sgaffaldiau".
"Ar ôl ei gwblhau, dylai'r Signature Group allu ail-ariannu'r datblygiad ac ad-dalu'r cyngor a chredydwyr eraill sydd ganddynt."
Mewn datganiad, dywedodd Lawrence Kenwright: "'Dy ni'n gyffrous ofnadwy i fod mewn sefyllfa lle 'dy ni'n gweld y llinell derfyn yn ein prosiect i adnewyddu'r adeilad hanesyddol i'w le iawn fel tlws yng nghoron treftadaeth Caerdydd.
"Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gefnogol iawn trwy gydol yr heriau ry'n ni wedi ei wynebu wrth adnewyddu'r gyfnewidfa lo ac mi ydyn ni'n ddiolchgar am yr arian y maen nhw wedi'i ddarparu i helpu i gwblhau'r prosiect.
"Unwaith mae'r gwaith adeiladu ar ben, fe wnawn ni ail-brisio'r gwesty fel gwesty wedi'i gwblhau'n llwyr, gan ein caniatáu i ail-gyllido neu werthu'r eiddo a phrynu cyfrannau buddsoddwyr unigol yn ôl gan roi ad-daliad llawn iddyn nhw ar ei buddsoddiadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2018
- Cyhoeddwyd20 Mai 2017
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017