Cyngor 'wedi torri safonau iaith' wrth gau ysgol gynradd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gymraeg Felindre

Mae ffrae yn ardal Abertawe rhwng arweinydd y cyngor sir a Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn â'r ffordd y cafodd Ysgol Gynradd Felindre ei chau ddechrau haf 2019.

Yn ôl adroddiad sydd wedi ei weld gan Newyddion 9 mae Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, yn feirniadol iawn o'r awdurdod lleol am dorri safonau iaith.

Yn y cyfamser mae arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru yn gofyn a oedd yr ymchwiliad yn ddefnydd da o arian cyhoeddus.

Mam i blant fu'n ddisgyblion yn yr ysgol a ofynnodd i'r Comisiynydd gynnal ymchwiliad, a hynny er mwyn canfod a oedd Cyngor Sir Abertawe wedi mynd yn groes i'r Safonau Iaith wrth gau'r ysgol.

'Torrisaith o safonau'

Yn ôl Angharad Dafis, roedd yna ddiffygion pendant yn ystyriaeth y cyngor o'r effaith ar yr iaith Gymraeg.

Safon y ddarpariaeth addysgol oedd rheswm y cyngor dros gau'r ysgol, ond mae Comisiynydd y Gymraeg wedi beirniadu Cyngor Sir Abertawe am dorri saith o safonau iaith yn ystod y cyfnod ymgynghori.

Doedd y ffurflenni oedd ar gael i ymateb i'r ymgynghoriad, medd y Comisiynydd, ddim yn trin y Gymraeg gyfystyr â'r Saesneg.

Roedd y blychau yn y fersiwn Gymraeg, meddai, yn llawer llai na'r rhai yn y fersiwn Saesneg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Dafis yn dadlau y dylai Comisiynydd y Gymraeg gael pwerau i ddadwneud penderfyniad cynghorau lleol

Mae'n nodi hefyd nad oedd y cyngor chwaith wedi ystyried effaith y penderfyniad i gau'r ysgol ar y cyfleoedd fyddai ar gael yn yr ardal wedyn i ddefnyddio'r iaith.

'Mesur maint bocsys'

Mae arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, wedi cyhuddo'r Comisiynydd o "fiwrocratiaeth" gan ddweud fod Aled Roberts a'i swyddogion wedi "treulio misoedd yn mesur maint bocsys ar y ffurflenni ymateb".

Dywedodd ei fod hefyd yn gresynu bod y sylwadau wedi dod i sylw'r cyhoedd cyn i'r cyngor gael cyfle i fwrw golwg ar yr adroddiad.

Ychwanegodd bod nifer o staff y cyngor yn siaradwyr Cymraeg a'u bod yn frwdfrydig am yr iaith a'i diwylliant.

Dywedodd: "Ry'n ni'n derbyn nad oeddem 100% yn dechnegol gywir y tro hwn ond fel mae'r comisiynydd ei hun yn cydnabod, chafodd hynny fawr o effaith ar y canlyniad."

Cafodd y disgyblion oedd yn mynd i Ysgol Gynradd Felindre gynnig lle yn ysgolion cynradd Cymraeg Tirdeunaw a Than-y-lan.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Cau'r ysgol oedd y penderfyniad iawn i'w wneud gan fod nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng i 10 a dim ond pedwar o'r rheiny oedd yn byw yn ardal Felindre."

Nododd hefyd nad oedd neb wedi dewis llenwi'r un blwch yn y naill iaith a bod yr awdurdod yn hyderus y bydd digwyddiadau cymunedol fel yr eisteddfod yn parhau i gael eu cynnal yn neuadd bentref Felindre.

Mwy o bwerau i'r Comisiynydd?

Dywedodd Angharad Dafis ei bod yn croesawu adroddiad y comisiynydd ond efallai ei fod yn rhy hwyr a bod yna gwestiynau i'w holi am gryfder unrhyw broses i amddiffyn cymunedau Cymraeg.

Dywedodd y dylai'r comisiynydd "gael pwerau i ddadwneud penderfyniad cynghorau lleol" ac ychwanegodd bod mwy o siaradwyr Cymraeg ar gyfartaledd yn Felindre nac yng ngweddill Abertawe.

"Mae ysgolion gwledig yn sefydliadau cenedlaethol ac mae eu cynnal yn hanfodol i ddyfodol yr iaith Gymraeg," meddai.

Mewn datganiad, dywedodd y Comisiynydd, Aled Roberts, na fyddai'r dyfarniad yn newid y penderfyniad i gau'r ysgol ond bod rhaid i bob cyngor sicrhau bod ymgynghori digonol yn cael ei wneud ar effaith unrhyw benderfyniad polisi ar y Gymraeg.

Mae Cyngor Abertawe nawr yn ystyried adroddiad y Comisiynydd ac hefyd yn ystyried a ydyn nhw am gyflwyno apêl.