Dros 1,000 o bobl yn gwrthwynebu cau canolfan ailgylchu Hendy-gwyn

  • Cyhoeddwyd
tip Hendy-gwyn

Mae yna rybuddion y bydd yna gynnydd mewn tipio anghyfreithlon os yw cynlluniau i gau canolfan ailgylchu Hendy-gwyn ar Daf yn cael eu cymeradwyo gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Gallai'r ganolfan gau yn 2020-21 fel rhan o gynllun dadleuol i arbed £16m dros y tair blynedd nesaf.

Byddai cau'r ganolfan yn arbed £80,000 y flwyddyn.

Os ydy'r ganolfan yn Hendy-gwyn yn cau, bydd pobl yr ardal yn gorfod teithio i'r ganolfan ailgylchu agosa' yn Nant-y-caws, taith o ryw 17 milltir.

Cynnig posib arall yw cwtogi diwrnodau agor y ganolfan yn Hendy-gwyn ynghyd â chanolfan Wern-ddu yn Rhydaman o saith diwrnod i bump.

Byddai hynny yn arbed £20,000.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Clive Edwards yn credu bydd cau canolfan ailgylchu Hendy-gwyn yn achosi i bobl ollwng sbwriel ar ochr y ffordd

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein, dolen allanol yn gwrthwynebu'r bwriad i gau Hendy-gwyn.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pawb i dreulio amser i edrych ar yr ymgynghoriad i'r gyllideb a rhoi eu barn i'r cyngor.

'Dwmpo sbwriel ar ochr hewl'

Un sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau ydy'r canwr Clive Edwards sydd yn byw yn y dref, ac sy'n rhedeg cwmni Bysiau Cwm Taf.

Dywedodd: "Fi'n meddwl bod e'n warthus o beth. £80,000 maen nhw'n meddwl safio. 'Sneb yn mynd i fynd lan i G'fyrddin.

"Trueni nad yw Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin yn gallu cydweithio, achos ni ar y ffin. Mae'r lle yn weddol newydd. Faint mae e wedi costio i roi 'na?

"Mae pobl yn ciwio i fynd mewn. Os gauen nhw'r lle hyn, 'na beth sydd yn mynd i ddigwydd... bydd dynion yn rhoi sbwriel ar ochr hewl. Byddan nhw yn dwmpo eu sbwriel ar ochr yr hewl.

"Mae'n mynd i gostio llawer mwy i gael dyn o'r cyngor, a'i fan, i gasglu'r sbwriel."

Mae Thomas Howells, sy'n rheolwr siop yn Hendy-gwyn, hefyd yn feirniadol o'r cynlluniau.

"Dyw pobl ddim yn hapus. 'Sdim llawer yn gwybod falle bydd e'n cau. Mae llawer o arian wedi mynd mewn i agor y lle, ac mae llawer o bobl yn defnyddio fe," meddai.

"Bydd pobl yn gorfod mynd i Nant-y-caws. Mae popeth dyddiau 'ma am y carbon footprint a recyclo. Mae'n dod â pobl mewn i Hendy-gwyn.

"I gau rhywbeth sydd yn mynd i helpu mas am y dyfodol, sai'n gwybod os mai dyna'r best idea."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Ffion Scourfield bod y newyddion wedi bod yn sioc

Mae'r Cynghorydd Dorian Phillips o ardal Llanboidy gerllaw yn aelod o grŵp Plaid Cymru sydd yn cyd-redeg y cyngor gyda chynghorwyr annibynnol.

"Mae yna ymateb cryf iawn yn erbyn e," meddai. "Mae pob un lle yn defnyddio fe. Dwi'n meddwl taw arian bach yw e i safio, ar gownt faint mae'n cael ei ddefnyddio.

"Ni wedi cwrdd â'r Pennaeth Amgylchedd, a sai'n gweld y figures yn adio lan. Bydd llawer mwy o stwff yn cael ei adael ar ochr hewl. Fi'n credu bydd e'n mistake mawr i gau e."

Dywedodd y Cynghorydd Phillips y byddai'n fodlon petasai'r ganolfan yn cau dau ddiwrnod yr wythnos, ar yr amod ei bod hi'n aros ar agor ar y penwythnos.

'Ymgynghoriad pwysig'

Yn ôl Ffion Scourfield o Gyngor Tref Hendy-gwyn, byddai cau'r ganolfan yn gam gwag.

"Mae hi wedi bod yn sioc fawr. Mae'r gymdeithas yn teimlo yn gryf nad yw nhw eisiau i'r ganolfan gau," meddai.

"Mae hi mor fishi 'ma. Fi wastad yn gweld e'n brysur. Mae mor bwysig fod pobl yn gallu dod yma i ailgylchu. Yr un mwyaf agos yw Nant-y-caws, 17 milltir i ffwrdd. Mae emissions carbon wrth yrru 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Dadl gwrthwynebwyr yw bod y ganolfan agosaf i'r un yma yn Hendy-gwyn sef Nant-y-caws yn rhy bell

Doedd Cyngor Sir Caerfyrddin ddim yn fodlon caniatáu i BBC Cymru holi aelod o'r Bwrdd Gweithredol ynglŷn â'r cynlluniau.

Mewn datganiad ysgrifenedig i BBC Cymru, dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau: "Yn yr un modd â chynghorau eraill, rydym yn parhau i wynebu costau a galw cynyddol am ein gwasanaethau nad yw lefel y cynnydd yng nghyllid y llywodraeth yn cyfateb iddynt.

"Rydym yn gwneud arbedion drwy wella effeithlonrwydd ac edrych yn ofalus ar wella'r modd y gallai gwasanaethau gael eu darparu - mae hyn yn ein galluogi i barhau i wario yn y meysydd lle ceir yr angen mwyaf, gofalu am ein trigolion mwyaf agored i niwed a darparu ystod o wasanaethau rheng flaen.

"Mae gofyn i bobl sut y gallai ein cynigion gael effaith arnynt yn bwysig i ni er mwyn inni allu deall barn y cyhoedd yn llwyr a gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar yr adborth hwnnw. Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig, ac rydym yn annog pawb i dreulio amser yn adolygu'r cynigion a rhannu eu barn â ni."

Bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb yn dod i ben ar 28 Ionawr.