Disgwyl i Long Casnewydd ddenu miloedd o ymwelwyr
- Cyhoeddwyd
Gall llong o'r 15fed ganrif a gafodd ei hachub o afon Wysg yng Nghasnewydd yn 2002 wneud cymaint i Gymru â wnaeth y Mary Rose i Portsmouth, medd archeolegwyr.
Dywed Cyngor Casnewydd eu bod yn gobeithio arddangos y llong mewn lle amlwg ac yn ôl haneswyr, y gwaith o ailadeiladu y 2,500 o ddarnau fydd y prosiect mwyaf o'i fath yn y byd.
Mae llawer o waith i'w wneud ar Long Casnewydd a'r gobaith yw y bydd hi'n cael ei harddangos erbyn 2025.
Mae yna amcangyfrif y gallai ddenu hyd at 150,000 o ymwelwyr y flwyddyn gan roi hwb blynyddol o £7m i economi Cymru.
"Mae pawb yn gwybod am y Mary Rose ond mae llong Casnewydd yn hŷn na hynny," medd curadur y prosiect Toby Jones.
"Mae'r Mary Rose wedi cael effaith sylweddol ar economi Portsmouth - a'r un fydd y stori yma. Fydd yna ddim byd tebyg i Long Casnewydd yn y byd i gyd."
Jig-so 3D mwya'r byd
Mae rhoi Llong Casnewydd yn ôl at ei gilydd wedi'i ddisgrifio fel jig-so 3D mwya'r byd - ond heb gyfarwyddiadau.
Mae'n 18 mlynedd ers i adeiladwyr theatr newydd yng Nghasnewydd ganfod olion y llong ar lannau'r afon Wysg.
Mae haneswyr yn credu bod y llong a gafodd ei lansio oddeutu 1449 yn rhan o "fasnachu gwin drudfawr" rhwng Portiwgal a Bryste a'i bod wedi angori ar gyfer gwaith atgyweirio yng Nghasnewydd rhwng 1468 a 1469.
Llwyddwyd i achub rhyw ddwy ran o dair o'r llong o ganol bedd mwdlyd.
Bu'n gorwedd yn y mwd am oddeutu 550 mlynedd "mewn amodau oer, tywyll, gwlyb perffaith" cyn i archeolegwyr ei chanfod.
Mae'r gwaith o'i hailadeiladu yn cymryd amser gan fod rhaid i bob un o'r planciau fynd trwy broses gadwraeth arbennig sy'n cynnwys sychrewi.
"Ry'n nawr yn barod i ddechrau meddwl am ailgodi'r llong ond mae'n rhaid i ni wybod yn lle - mi all gymryd tair neu bedair blynedd i'w hailadeiladu," ychwanegodd Toby Jones.
Dywed Ffrindiau Llong Casnewydd bod £9m o arian cyhoeddus wedi cael ei wario cyn belled â'u bod nawr am i'r awdurdodau ymrwymo i ddewis cartref parhaol.
Mae Amgueddfa Casnewydd ynghanol y ganolfan siopa yn un dewis ond hyd yma dyw Cyngor Casnewydd ddim wedi penderfynu'n derfynol.
'Dyw bod allan o ddŵr ddim yn dda i'r llong ac felly mae archeolegwyr wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr peirianyddol o Brifysgol Abertawe i greu crud arbennig.
"Ry'n am i bob ymwelydd weld y llong o amrywiol onglau," ychwanegodd Dr Jones.
Dywed Cyngor Casnewydd bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian iddyn nhw reoli'r prosiect a'i fod wedi denu miloedd o ymwelwyr yn barod.
Nod y cyngor yw arddangos y llong a'i harteffactau mewn man canolog yn y ddinas ond bod hynny. medd llefarydd, yn ddibynnol ar arian a dod o hyd i le addas pan mae'r gwaith atgyweirio wedi dod i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2014
- Cyhoeddwyd19 Medi 2012