Yr ifaciwîs wnaeth aros yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Barbara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Barbara Warlow (Davies bellach) gyda'i dol o gyfnod y Rhyfel

Wythdeg mlynedd ers i rai o blant dinasoedd mawr Lloegr orfod dianc rhag bomiau'r Ail Ryfel Byd, mae rhai o'r ifaciwîs ddaeth i Gymru wedi bod yn sôn am garedigrwydd pobl cefn gwlad Cymru wnaeth newid eu bywydau.

Fe gychwynnodd Operation Pied Piper ar Fedi 1 1939, ac mewn ychydig dros dridiau roedd tair miliwn o blant ac oedolion wedi eu symud o'r dinasoedd mawr i fannau mwy diogel fel Talgarreg yng Ngheredigion.

Yma ar fferm wledig Pantglas y darganfu merch o ardal Edgehill, Lerpwl, ei hun.

A hithau bellach yn eu 80au, dim ond tair oed oedd Barbara Warlow pan gollodd ei mam. Gwraig o'r enw Ruthie Cook oedd bellach yn gofalu amdani hi a'i brawd Bill. Roedd ei thad, William, yn y fyddin, ond drwy ryw ryfedd wyrth, wedi dychwelyd un noson dyngedfennol at ei blant ar Tachwedd 28, 1940.

"Rhyw fath o goleg oedd Ysgol Ernest Brown ar dop y stryd, a ro'n i arfer mynd i gysgodi rhag y bomie yna," meddai.

"Ond dyma nhad yn dod draw a dweud ei bod hi lot rhy beryglus i fynd yno, felly'r noson honno a'th Ruthie Cook, ei merch a fi ddim yna."

Ffynhonnell y llun, Barbara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Barbara Davies yn 1936

'Digwyddiad unigol gwaetha'r Rhyfel'

Roedd sail i ofnau ei thad. Tarwyd yr ysgol gan fom Almaenig, a bu farw 166 o bobl oedd yn cysgodi yno'r noson honno, mewn digwyddiad a ddisgrifiwyd gan Churchill, y Prif Weinidog ar y pryd, fel digwyddiad unigol gwaetha'r Rhyfel.

Ond doedd hunllef y noson ddim ar ben.

"Wi'n cofio cael ein gwthio i eistedd ar y soffa 'ma ar bwys y cwtch dan stâr a sŵn y bomie' yn dod yn agosach ac agosach o hyd, a nhad yn sefyll rhyngddo fi a'r golau yn y ffenest ac yn dweud "they are close tonight, they are really, really close tonight".

"Y funud nesa dyma ffrwydriad enfawr a'r ffenestr yn rhacs jibiders a ro'n i yn gwybod bod y bom wedi disgyn yn agos iawn. A'th nhad mas i weld y difrod, a gath e ei chwythu ar draws yr iard."

Ond mae un atgof o'r noson drychinebus honno wedi serio ar gof Barbara,

"Lladdwyd pawb aeth i gysgodi lawr yn y selerydd heblaw un babi bach, ac o'dd hwnnw pan dynnwyd e allan o'r rwbel yn sugno ei ddymi, a fues i am sbel hir, hir, hir ar ôl hynny yn dweud y geirie "sucking his dummy alive, sucking his dummy alive" a wydden i ddim beth oedd arwyddocâd y geirie, ond roedd e yn effaith ofnadwy arna i, a mewn blynydde' wedyn des i ddeall beth oedd wedi cymryd lle".

Ffynhonnell y llun, Print Collector/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Durning Road, Lerpwl, ar ôl i fom Almaenig ei dinistrio. Lladdwyd 166 o bobl yno.

'Weles i ddim llawer o nhad wedyn'

Roedd trychineb Ysgol Ernest Brown yn brawf, os bu erioed, bod hi'n bryd gadael Lerpwl, a gyda'i thad fe drafaeliodd Barbara ar y trên i Aberystwyth ac ymlaen i Lanon i gyfarfod ei theulu newydd. Mae ei hatgof cynta' o lanio ar glos fferm Pantglas mor fyw heddiw ag yr oedd bron i 80 mlynedd yn ôl.

"Ro'dd hen hewl yn fwd i gyd dros y bancyn noeth yma ac yn y pellter ro'n i yn gweld cart a cheffyl yn dod, a dyn bach a chap fflat a sigarét yn ei geg yn wên i gyd. Hwn oedd John Davies Pantglas, ne' wncwl fel ddes i i alw fe, ond fuodd e yn fwy o dad i fi na fuodd un fi fy hunan, achos weles i ddim llawer o nhad wedyn."

Ffynhonnell y llun, Barbara Davies
Disgrifiad o’r llun,

Llun a dynnwyd o ddiwrnod cyntaf Barbara Davies ar Fferm Pantglas Talgarreg yn haf 1941 gyda'i brawd Bill

'Cadw darnau o shrapnel fel souvenirs'

Yn Harlsden, gogledd orllewin Llundain y ganwyd Frank Barnett. Danfonwyd e, ei frawd George a'i fam i Nottingham ar ddechrau'r rhyfel i ddianc rhag bomiau'r gelyn, dim ond i ddychwelyd i Lundain yn ddiweddarach.

Ond erbyn haf 1944 roedd gan yr Almaenwyr daflegryn oedd a'i enw yn ddigon ynddo'i hunan i godi arswyd ar drigolion y ddinas - y Doodlebug. Anelwyd 2,500 o'r rhain, sef rocedi'r V1 tuag at Lundain mewn cwta flwyddyn gan ladd 6,200 o bobl ag anafu 18,000.

"Ro'dd air-raid shelter gyda ni yn yr ardd, rodd e ddim yn lle pleserus iawn. Ar fatras dan ford y gegin odd y lle gore', dyna'r lle mwya saff yn y tŷ. Ro'n ni'r bois wedyn yn mynd mas i edrych am shrapnel a'u cadw nhw fel souvenirs".

Disgrifiad o’r llun,

Frank Barnett yn ei gartre yn Nhrelech a llun ohono yn ei arddegau.

'Mystery trip' nath newid fy mywyd i'

Ond, roedd hi'n bryd i Frank a'i frawd George ddechrau'r daith i Gymru. I Gaerfyrddin gyntaf, ac yna, ym mart y dre', dewis pa fws oedd i'w cludo, heb wybod i ble.

"O'dd lot o fysus llwyd yna ond ar ddiwedd y rhes ro'dd 'na fys coch a ddwedes i wrth fy mrawd, 'don't go on that one let's go into the red bus', a fel hynny fuodd hi.

"Ro'dd hi yn rhyw fath o mystery trip, trip wnaeth newid fy mywyd i."

Roedd y dirgelwch ar ben pan laniodd ar fferm Clun ger Trelech, a chartref Michael a Lottie Morris. Roedd caredigrwydd y cwpl yn agoriad llygad i Frank.

"Os o'dd ise dillad newydd arna i, wel bant â ni i Gastell Newydd Emlyn i siop Bon Marché. Outfit newydd o'r top i'r gwaelod. Do'n nhw yn perthyn dim i fi, ond fel yna ro'n nhw yn fy nhrin i. Ges i'r gore' o bopeth."

Disgrifiad,

Rhai o gyfoedion Barbara a Frank yn cyrraedd Bangor o Lerpwl ar 3 Medi 1939

'Fe brynon nhw ffarm arall, i fy nghadw i adre'

I'r mwyafrif llethol o'r ifaciwîs wrth i'r gynnau dewi, roedd hi hefyd yn bryd gadael hedd a thawelwch cefn gwlad Cymru, a dychwelyd i hwrlibwrli'r dinasoedd. Ond mewn un cornel o Geredigion roedd gan un ferch fach syniadau eraill.

"Ar fore Llun ro'n i fod mynd nôl, dyma nhad yn dweud 'Well Barbara it's time to go home now, or you will miss the train', fe droies i rownd a dweud, 'I'm not coming home to Liverpool daddy, I am staying in Wales', ac yma 'wi wedi bod ers hynny," meddai Barbara.

Fel Barbara, fe ddaeth hi yn bryd i Frank feddwl am fynd nôl i Harlesden.

"Eisteddes lawr i ysgrifennu llythyr i mam yn dweud mod i ddim ise mynd nôl i Lundain," meddai Frank.

"Wedodd hi bod hynny yn iawn, ond ar yr amod bod George fy mrawd yn mynd nôl, a fel'ny fuodd hi".

Erbyn heddiw mae Frank yn godwr canu a blaenor yng Nghapel y Graig, Trelech, ers bron i 50 mlynedd, ond mae 'na un atgof yn arbennig sy'n brawf o ddyfnder cariad ei deulu mabwysiedig tuag ato. Fe ddigwyddodd hynny flynyddoedd yn ddiweddarach, pan ddaeth hi'n bryd cofrestru i'r 'National Service.

"Do'n i ddim fod mynd i ryfel. No way.

"Do'dd y Morrisiaid ddim ise fi fynd i ryfel, felly beth naethon nhw, gan nad oedd dim digon o dir gyda ni i gadw fi, fe brynon nhw ffarm arall, er mwy cadw fi adre! Dyna ddangos mor agos ro'n ni i'n gilydd. Frank o'dd y cwbl iddyn nhw, Frank, Frank, Frank.

"Allwch chi ddim gofyn am fwy na hynna allwch chi?"

Mae Beti George yn adrodd hanes rhai o ifaciwîs Cymru yn Straeon Bob Lliw: Cymry, Ond Nid o Ddewis ar Radio Cymru Dydd Iau Medi 12, 12.30

Hefyd o ddiddordeb: