'Mae Cymraeg cywir yn bwysig i ddysgwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae iaith safonol yn bwysig i ddysgwyr meddai un o ddarllenwyr Cymru Fyw wrth ymateb i sylwadau Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, ynglŷn â pheidio poeni am bethau fel treiglo wrth drafod yr angen i fagu hyder siaradwyr Cymraeg.
Mae Anthony Morgan o Aberpennar, Cwm Cynon, yn diwtor Cymraeg i oedolion ers 1981 ac mae'n anghytuno ag Eluned Morgan am dreigladau.
"Mae pobl wedi creu'r treigliadau er mwyn ynganu'n haws nid i gymhlethu dysgu," meddai. "Mae treigliadau yn y Gernyweg ac yn y Llydaweg ac hyd yn oed yn y Saesneg: wife - wives, knife - knives!
"Dyw e ddim yn drychineb ar lafar os ydy pobl yn camdreiglo ond rhaid sylweddoli taw peth hollol naturiol yw [treiglo].
"Mae'n rhwyddach ynganu 'yng Nghaerdydd' na 'yn Caerdydd', mae'n llifo'n well ac 'does na ddim angen stopio ac ailddechrau!
"Dywedwn i, fodd bynnag bod pobl yn newid iaith trwy'r amser a chyda phwyllgor cenedlaethol gallant newid pethau.
"Felly os ydy 'yn Gaerdydd' yn boblogaidd, gellir dweud ei fod yn dderbyniol erbyn hyn! Rhaid cofio bod swyddogaeth gan y treigliadau... a gall ystyr y frawddeg newid gyda chamdreiglo.
"Un o nodweddion arbennig ein hiaith yw'r treigliadau felly dylen amddiffyn nhw a'u dysgu nhw'n well! Mae'n rhy hawdd dweud peidiwch â phoeni!" meddai Mr Morgan sy'n diwtor yng Ngholeg Gwent ac wedi dysgu cyn hynny ar gwrs Wlpan yn Llanbed ac ym mhrifysgol Brest yn Llydaw.
'Anodd deall tafodiaith'
Er bod Mr Morgan yn cytuno bod angen magu hyder a pheidio â beirniadu, gyda chymaint o wahaniaethau tafodieithol, mae'n teimlo bod rhoi pwyslais ar Gymraeg cwbl naturiol yn gallu bod yn ddryslyd i bobl sy'n dysgu'r iaith.
"Mae'n hen bryd inni ddechrau trafod y fath o Gymraeg sy'n cael ei dysgu i ddysgwyr a beth gall siaradwyr naturiol ei wneud i'n helpu ni i ddeall ein gilydd," meddai.
"Daw Cymraeg fel mamiaith o'r aelwyd ac ers y chweched ganrif mae'r Gymraeg yn cael ei llefaru mewn ardaloedd gyda'u tafodieithoedd eu hunain ac fel y mae pawb yn gwybod gallan nhw fod yn hollol wahanol i'w gilydd.
"Hyd yn oed heddiw, yn sgil hynny, mae rhai pobl yn y gogledd yn edrych ar raglenni fel Pobol y Cwm gydag is-deitlau yn Saesneg!
"Mae dysgwyr yn darganfod bod siarad a deall siaradwyr naturiol yn anodd dros ben.
"Heblaw y Beibl 'does 'na iaith safonol y mae pawb yn gallu anelu ati hi.
"Ond y dyddiau hyn gan nad oes llawer o bobl yn defnyddio'r Beibl a chan fod Cymraeg y Beibl yn hynod o anodd mae hynny'n achosi problemau, ac nid iaith lafar yw hi.
Haws dysgu un fersiwn
"Wrth ddysgu mae'n angenrheidiol cael templedi sy'n gywir. Mae'n haws dysgu'r hyn sy'n gywir gan fod un fersiwn gan amlaf.
"Crëwyd Cymraeg Byw i helpu siaradwyr naturiol yn gyntaf oll ac wedyn i ddysgwyr ond yn anffodus diflannodd hi er bod llawer o bobl wedi dysgu siarad yr iaith yn dda o'i herwydd.
"Mae'n orfodol bod addysg a'r ysgolion yn ymwneud â hyn yn y dyfodol ac efallai yr ateb yw bod rhaid inni i gyd siarad yn well ac yn llai tafodieithol.
"Wrth gwrs bydd hynny'n anodd gyda'r cenedlaethau presennol felly yn y dyfodol pwy a ŵyr!
"Mae dyfodol yr iaith yn nwylo'n plant ni ac mae gen i bob hyder y byddant yn llwyddiannus!"
Dadl dros dafodiaith?
Mae Mr Morgan yn cytuno bod angen "cael gwared o'r beirniadu ffroenuchel" am burdeb iaith ond mae Cymraeg safonol hefyd yn bwysig meddai.
Er hynny, mae eraill yn dadlau y byddai dysgu'r tafodieithoedd mewn ysgolion yn help i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr.
Yn ôl Aled Thomas o Benarth: "... mae Cymraeg llafar yn aml yn wahanol i ffurf ysgrifenedig cyffredinol yr iaith felly er mwyn atal problemau ieithyddol rhag datblygu yn sgil hyn, rwy'n meddwl dylid dysgu tafodiaith yr ardal ar lafar yn unig.
"Byddai dysgu'r ffordd y caiff geiriau eu dweud yn yr ardal lle maen nhw'n byw yn dysgu'r disgyblion fwy am eu hunaniaeth fel siaradwyr yr iaith ac fel trigolion yr ardal."
Hefyd o ddiddordeb: