Y Cynulliad yn pasio deddf i atal taro plant
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi dilyn Yr Alban trwy wahardd rhieni rhag taro plant.
Bu Aelodau Cynulliad yn pleidleisio am y tro olaf ar ddeddf i atal cosbi plant yn gorfforol ddydd Mawrth.
Cafodd y gwaharddiad ei gymeradwyo o 36 pleidlais i 14, a bydd yn dod i rym yn 2022.
Fe wnaeth Senedd yr Alban ei gwneud hi'n anghyfreithlon i rieni daro plant ym mis Hydref. Daw'r gwaharddiad yna i rym ym mis Tachwedd.
Nid oes cynlluniau i gymryd yr un cam yng Ngogledd Iwerddon na Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau dileu'r amddiffyniad o "gosb resymol" mewn achosion o ymosodiadau ar blant.
Beth yw'r diffiniad cyfreithiol o daro plentyn?
Does dim diffiniad cyfreithiol o smac - a dyw Llywodraeth Cymru ddim yn bwriadu creu un, er mwyn osgoi ymyrryd gyda hawl rhieni i gyffwrdd a'u plant.
Byddai dim newid i hawl rhiant i rwystro plentyn rhag rhedeg i'r ffordd neu eu gorfodi i wisgo o ganlyniad i'r ddeddf hon, meddai'r llywodraeth.
Ar hyn o bryd, gall unrhyw un sy'n cael ei erlyn am ymosodiad ar blentyn ddadlau eu bod nhw'n defnyddio "cosb resymol".
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron taw dim ond os oes gan y dioddefwr anafiadau dros dro sy'n achosi dim mwy nac i'r croen gochi y mae modd defnyddio'r amddiffyniad.
Mae'r mesur yn dileu'r amddiffyniad hwnnw yn llwyr.
Pwy sydd o blaid ac yn erbyn?
Mae elusennau plant a Chomisiynwyr Plant Cymru, Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon eisiau gwaharddiad.
Mae rhai ACau wedi dadlau o blaid ers blynyddoedd, ond tan yn ddiweddar doedd hi ddim yn glir os oedd ganddynt y pŵer i wneud hyn.
Mae ACau Ceidwadol a Phlaid Brexit yn erbyn gwaharddiad - felly hefyd mae rhai ymgyrchwyr a mudiadau efengylaidd.
Mae barn gref ar naill ochr y ddadl - a'r ddwy ochr yn honni taw nhw sy'n cynrychioli'r mwyafrif.
Sut bydd y gwaharddiad yn cael ei orfodi?
Bydd erlyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan yr heddlu.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl tua 38 o erlyniadau yn y bum mlynedd gyntaf.
Mae eu ffigyrau yn seiliedig ar brofiad Seland Newydd, lle cafodd smacio ei wahardd yn 2007.
Cred y gwasanaeth erlyn y bydd y nifer yn llai.
Gallai'r heddlu benderfynu rhoi rhybudd i rywun yn lle mynd â nhw i'r llys.
Gallent hefyd gynnig rhoi datrysiad cymunedol i rywun.
Ni fyddai hynny yn mynd ar gofnod troseddol, ond dan rhai amgylchiadau fe allai gael ei ddatgelu pan fod pobl yn ceisio am rai swyddi.
Pa wledydd arall sydd wedi gwahardd taro?
Mae cosbi plant yn gorfforol wedi ei gwahardd mewn 58 gwlad yn llwyr, ond dyw hynny ddim yn cynnwys llywodraethau datganoledig fel yr Alban a Chymru.
Sweden oedd y wlad gyntaf i wahardd smacio ym 1979.
Dywedodd swyddfa Comisiynydd Plant Seland Newydd fod y gyfran o rieni a ddywedodd eu bod nhw'n cosbi eu plant yn gorfforol wedi disgyn yn y degawd ers ei wahardd.
Beth am riant o Loegr sydd yn taro plentyn yng Nghymru heb iddyn nhw wybod am y gwaharddiad?
Dyw anwybodaeth o'r gyfraith ddim yn esgus am ei thorri.
Does dim ots o le bynnag y mae pobl yn dod yn wreiddiol, bydd yn rhaid i unrhyw un sydd wedi'i gyhuddo o daro plentyn yng Nghymru wynebu'r canlyniadau.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth erlyn wedi dweud ei bod yn bwysig bod ymwelwyr â Chymru yn gwybod am y gwaharddiad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu cael rhaglen wybodaeth eang i rybuddio pobl.
Maen nhw hefyd yn cydnabod y bydd angen i gyfreithwyr fod yn ymwybodol bod y ddeddf yn creu gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr.
Beth ddylai athro ei wneud os ydy plentyn yn datgelu ei fod wedi cael ei smacio yn y cartref?
Eisoes mae disgwyl i athrawon adrodd eu pryderon ynghylch cosb gorfforol.
Os oes angen gwneud ymholiadau pellach, gwasanaethau cymdeithasol neu'r heddlu sy'n gyfrifol am wneud hynny.
Efallai y bydd angen i ysgolion adolygu eu rheolau ar ddiogelwch plant pan ddaw'r amddiffyniad o gosb resymol i ben.
Mae undebau addysg wedi dweud y dylai eu haelodau dderbyn rhagor o wybodaeth am yr hyn mae disgwyl iddyn nhw ei wneud.
Dywedodd y llywodraeth nad oedd am atal athrawon rhag rheoli disgyblion yn gorfforol os oes rhaid iddyn nhw, er enghraifft, er mwyn atal ymladd ar dir yr ysgol.
O ran gweddill y cyhoedd, mae gweinidogion a chomisiynydd plant Cymru wedi dweud y bydd e'n fater o farn bersonol i unigolion penderfynu p'un ai adrodd honiadau o smacio neu beidio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020