Taro plant: Galw am 'wybodaeth glir' cyn pleidlais derfynol
- Cyhoeddwyd
Bydd angen gwybodaeth glir ar bobl ynglŷn â beth i'w wneud os ydyn nhw'n gweld plentyn yn cael ei daro, medd Aelod Cynulliad.
Fe fydd ACau yn trafod y gwaharddiad ar daro plant nos Fawrth.
Mae disgwyl pleidlais derfynol i newid y gyfraith yn y Senedd wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau dileu'r amddiffyniad o "gosb resymol" mewn erlyniadau am ymosod ar blentyn.
Fe wnaeth Senedd yr Alban ddeddfu i wahardd taro plant llynedd. Mae disgwyl i'r gyfraith ddod i rym yno fis Tachwedd.
Does dim cynlluniau i wneud yr un peth yn Lloegr na Gogledd Iwerddon.
Fe fydd y gwaharddiad yn dod i rym yn 2022 os bydd ACau, yn ôl y disgwyl, yn pasio'r Mesur Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol.
Dywed gweinidogion y bydd y gyfraith newydd yn amddiffyn plant - a'u bod nhw'n ymateb i newid mewn agweddau tuag at fagu plant.
Dywed y llywodraeth ei bod yn bwriadu mwy o gyhoeddusrwydd ynglŷn â'r newid yn y gyfraith.
Maen nhw hefyd wedi lansio ymgyrchoedd i annog rhieni i ddefnyddio technegau magu plant cadarnhaol.
Ond mae ACau Ceidwadol wedi cyflwyno gwelliannau a fyddai'n gorfodi Llywodraeth Cymru i ddarparu cyngor ar sut i godi pryderon ynghylch cosb gorfforol.
Mae'r AC Torïaidd Janet Finch-Saunders yn gwrthwynebu'r gwaharddiad, ond yn dweud os yw'n mynd i ddigwydd, mae angen gwella bil "diffygiol" y llywodraeth.
"Nid oes signal clir yn dod gan y llywodraeth ynghylch yr hyn y dylai unrhyw un ei wneud os ydyn nhw'n gweld plentyn yn derbyn smac," meddai.
Galwodd ymchwiliad gan ACau am "gyngor clir" ar yr hyn y dylai pobl ei wneud os ydyn nhw'n gweld plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol.
Mae gweinidogion wedi dweud taw mater i unigolion penderfynu fyddai hynny.
Beth fydd y gost?
Ar sail effaith gwaharddiad yn erbyn taro plant yn Seland Newydd, mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd tua 38 achos o bobl yn torri'r gyfraith yn y pum mlynedd gyntaf.
Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y bydd y bil yn costio rhwng £2.3m a £3.7m, a bydd hyd at £980,000 ohono yn cael ei wario ar yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r llysoedd.
Yn ôl adolygiad gafodd ei gomisiynu gan y llywodraeth, does dim tystiolaeth bendant bod defnyddio cosb gorfforol "rhesymol" yn achosi canlyniadau negyddol.
Ond roedd y rhan fwyaf o ymchwilwyr yn y maes o'r farn y gallai pob math o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.
Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Nid yw'n dderbyniol i roi cosb gorfforol i oedolyn - ac ni ddylai fod yn dderbyniol i wneud hynny i blentyn.
"Nod y mesur yw amddiffyn plant rhag pob math o gosbi corfforol a chefnogi eu hawliau.
"Rydym wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol sy'n awgrymu fod agweddau at hyn yn newid - roedd 81% o rieni a gwarchodwyr plant ifanc yng Nghymru yn anghytuno gyda'r gosodiad fod smacio plentyn drwg yn angenrheidiol, ac roedd 58% o oedolion yn credu ei fod eisoes yn erbyn y gyfraith i roi cosb gorfforol i blentyn.
"Mae cynrychiolwyr awdurdodau lleol, gwasanaethau plant a'r heddlu yn cefnogi'r bil, ac mae pobl broffesiynol sy'n gweithio yn y maes wedi dweud y bydd hyn yn gwneud y gyfraith yn fwy clir ac yn helpu diogelu plant yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2019