Chwe Gwlad: Pryder am ffitrwydd Elliot Dee
- Cyhoeddwyd
Mae anafiadau'r bachwr Elliot Dee yn bryder i hyfforddwr newydd Cymru, Wayne Pivac cyn gêm agoriadol Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal.
Dyw Dee heb hyfforddi llawer oherwydd problem gyda'i asen, medd hyfforddwyr ymosod Cymru, Stephen Jones.
Er bod yna amheuaeth a fyddai Owen Watkin yn holliach ar ôl cael anaf i'w ben-glin mae yntau wedi bod yn hyfforddi gyda'r garfan.
Ond mae sawl opsiwn ar gyfer rhif 13 gyda'r posibilrwydd o gael George North neu Nick Tompkins yn ei le.
Dywedodd hefyd fod Taulupe Faletau a Johnny McNicholl wedi cymryd rhan yn yr ymarfer er gwaetha' pryderon am fan anafiaduau iddyn nhw.
Ychwanegodd Jones fod yr asgellwr 18 oed Louis Rees-Zammit wedi dychwelyd i hyfforddi o'i glwb, a'i fod yn chwaraewr sydd a "thalent anhygoel".
Mae disgwyl i'r tîm i herio'r Eidal gael ei gyhoeddi ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2020