Cyhoeddi enw dyn yn achos marwolaeth Glyn-nedd
- Cyhoeddwyd
![David Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7F60/production/_110680623_29b89631-0704-4511-95ce-9da38a3ebd2b.jpg)
Cafodd David Williams ei ddisgrifio gan ei deulu fel dyn cariadus a hael
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i achos llofruddiaeth yng Nglyn-nedd wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw.
Cafwyd hyd i gorff David Williams, 73, ar Lôn Danygraig ger traphont Pontwalby brynhawn ddydd Llun.
Mae dyn lleol 28 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y swyddog sy'n arwain yr ymchwiliad, Ditectif Uwch-arolygydd Darren George o Heddlu'r De: "Rydyn ni'n awyddus i siarad gydag unrhyw un oedd yn ardal Pontwalby rhwng 14:00 a 20:00 nos Lun ac a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal."
Mewn datganiad dywedodd teulu Mr Williams: "Roedd David yn berson cariadus a hael ofnadwy a fyddai'n mynd allan o'i ffordd i helpu unrhyw un.
"Roedd e'n berson adnabyddus yn y byd sioeau cŵn, a bydd yna golled fawr ar ei ôl."
![Glyn-nedd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5224/production/_110682012_glynneathbody1.jpg)
Cafodd corff Mr Williams ei ddarganfod ddydd Llun
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020