Achos bwa croes yn clywed tystiolaeth gan arbenigwr arfau

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai 2019

Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio'r pensiynwr Gerald Corrigan wedi clywed tystiolaeth gan arbenigwr arfau fforensig.

Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, wedi digwyddiad y tu allan i'w dŷ ger Caergybi ar 19 Ebrill 2019 pan aeth i drwsio dysgl loeren teledu.

Roedd wedi ei saethu gan fwa croes, a bu farw yn yr ysbyty ym mis Mai.

Arbenigwr

Dywedodd yr arbenigwr Andre Horne ei fod wedi dod ar draws achosion o fwâu croes yn cael eu defnyddio yn y gorffennol, gan gynnwys tair marwolaeth. Fe ddisgrifiodd ei hun fel heliwr profiadol yn Ne Affrica, sef ei wlad enedigol.

Cafodd bwa croes mawr o fath Excalibur ei roi i'r rheithgor ei astudio. Dywedodd Mr Horne fod saethau bwa croes 'pigog' wedi eu dylunio ar gyfer ymarfer yn unig, neu ar gyfer hela anifeiliaid bychain.

Roedd saethau gyda phennau llydan wedi eu dylunio ar gyfer hela ceirw neu anifeiliaid mwy, ac fe esboniodd fod gan y saethau â phennau llydan ochrau miniog iawn er mwyn torri'r prif wythiennau.

Byddai hyn yn golygu y byddai anifail "yn gwaedu i farwolaeth yn sydyn iawn".

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr erlyniad fod Gerald Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu

Gofynnodd y bargyfreithiwr Peter Rouch QC ar ran yr erlyniad os oedd y saethau pen llydan yn cael eu defnyddio ar gyfer ymarfer, ac fe esboniodd Andre Horne "nad oeddynt wedi eu dylunio ar gyfer hynny."

Ychwanegodd fod hela anifeiliaid gyda bwa croes yn anghyfreithlon yn y DU.

Cafodd fideo ei chwarae i'r rheithgor o Mr Horne yn tynnu saeth yn ôl ar fwa croes Excalibur gan ddefnyddio teclyn arbennig "gan fod y bwa mor bwerus".

Esboniodd nad oedd angen defnyddio teclyn o'r math yma ar fwâu llai pwerus, gan fod modd tynnu'r saeth yn ôl gyda llaw.

Lleoliad y drosedd

Roedd Mr Horne wedi ymweld â safle'r drosedd ac fe ddaeth i'r casgliad fod pen llydan y saeth wedi dod yn rhydd o'r saeth ar ôl pasio drwy gorff Mr Corrigan a tharo wal ei gartref.

Cafwyd hyd i lafnau'r saeth ger dysgl loeren deledu ar y safle.

Yna fe welodd y rheithgor lun o leoliad honedig y saethwr a'r ongl saethu. Daeth Mr Horne i'r casgliad y byddai'r saethwr wedi lleoli ei hun mewn cae dros wal ger y tŷ, gan anelu'r saeth i gyfeiriad y ddysgl loeren.

"Fyddwn i ddim yn disgwyl i'r saethwr fod yn sefyll mewn man agored ble byddai Mr Corrigan wedi gallu ei weld...fe fyddwn yn disgwyl i'r saethwr fod yn cuddio ei hun," meddai.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys dystiolaeth yn awgrymu fod y bwa croes wedi saethu tuag at y tŷ o bellter o tua 10m

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd gyfrifiadur yn dangos safle honedig y saethwr ger y wal yn amgylchynu'r tŷ, ac yn wynebu'r ddysgl loeren

Mae'r diffynnydd yn yr achos, Terence Michael Whall, 39 oed o Fryngwran, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac un diffynnydd arall, Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau diffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.

Ddydd Llun fe blediodd dau ddiffynnydd arall, Martin Roberts a Darren Jones, yn euog i gynnau tân yn fwriadol.

Mae'r achos yn parhau.