Lisa Nandy: 'Datganoli ddim yn gweithio i bobl gogledd Cymru'
- Cyhoeddwyd
Nid yw pobl yng ngogledd Cymru yn teimlo bod datganoli yn gweithio iddyn nhw, yn ôl ymgeisydd arweinyddiaeth Llafur.
Aeth Lisa Nandy benben â Syr Keir Starmer, Emily Thornberry a Rebecca Long-Bailey mewn hystings yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Roedd y pedwar yn cefnogi rhoi hwb i ddatganoli, gyda'r ceffyl blaen Keir Starmer yn dadlau dros DU ffederal.
Dywedodd Ms Nandy a Ms Long-Bailey hefyd na fyddai'r naill na'r llall yn sefyll yn y ffordd pe bai Cymru eisiau refferendwm annibyniaeth.
Dywedodd AS Wigan, Lisa Nandy: "Rwyf wedi treulio llawer o amser yng ngogledd Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
"Ac yn union fel yn ôl adref, yn Wigan, mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u cau allan o'r pŵer canolog.
"Pŵer yn San Steffan ond hefyd pŵer yng Nghaerdydd."
Dywedodd Ms Nandy fod angen mwy o rym ar bobl mewn ardaloedd fel y Rhyl a'r Fflint dros eu bywydau - ffederaliaeth "yw'r dechrau ond nid yr unig ateb".
Dywedodd Keir Starmer, sydd wedi ennill y mwyafrif o enwebiadau gan ASau Llafur Cymru, y dylid datganoli mwy o bwerau.
"Ffederaliaeth yw'r ffordd ymlaen," meddai.
Dywedodd fod angen i Lafur Cymru chwarae mwy o ran wrth wneud penderfyniadau yn y blaid.
"Ni fyddwn yn ceisio gorfodi unrhyw beth ar Gymru - mae'n ymwneud â chytuno a chydweithio," meddai.
Dim briff am Gymru mewn cyfweliadau
Roedd rhai o'r ymgeiswyr yn feirniadol o'r modd yr oedd plaid y DU wedi delio â Chymru.
Awgrymodd Emily Thornberry ei bod wedi cael ei rhoi mewn sefyllfa i wneud cyfweliadau ar bolisi band eang (broadband) yn ystod yr etholiad cyffredinol, lle na ddywedwyd wrthi beth fyddai'r effaith yng Nghymru.
Dywedodd Rebecca Long-Bailey - sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y grŵp pro-Jeremy Corbyn, Momentum - y byddai hi eisiau trafodaeth gydag aelodau Cymru ynglŷn â datganoli.
Dylai'r Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn cael ei ailenwi'n Senedd Cymru yn fuan, fod yn "ymreolaethol", meddai, ac ni ddylid ei ystyried yn lloeren.
Ymgeiswyr yn creu argraff
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod y trafodaethau wedi bod yn "ffantastig".
Wrth gyfeirio at sylwadau Ms Nandy, ychwanegodd Mr Drakeford: "Oedd hi'n gwneud pwynt cyffredinol am sut mae pobl ledled y DU sy'n byw tu fas i Lundain neu Gaerdydd yn teimlo am yr effaith mae penderfyniadau yn cael ar eu bywydau nhw."
Dywedodd y cyn-AS, Siân James fod yr holl ymgeiswyr wedi creu argraff arni.
"Roeddwn i'n meddwl bod nhw'n ardderchog," meddai. "Dwi wedi gwneud fy mhenderfyniad ond mae'n rhaid gweud, ar ôl gweld hyn heddi', pwy bynnag enillith, mi fyddwn i'n hapus i gefnogi unrhyw un ohonyn nhw.
"Mae'n rhaid i ni gael tôn gwahanol, mae'n bwysig iawn bod ein harweinyddiaeth ni ar ben arall yr M4 yn deall bod Cymru yn wlad wahanol gyda'n senedd ein hunain, gyda'n hawliau'n hunain ac mae pobl yn disgwyl i ni wrando a gweithredu ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019