Yr heddlu'n 'dysgu' o brofiad dioddefwyr troseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
camdrin domestig

Er mwyn ceisio gwella eu gwasanaeth i ddioddefwyr troseddau rhyw a thrais yn y cartref mae Heddlu Gwent wedi penodi cydlynydd newydd - y swydd gyntaf o'i math yng Nghymru.

Pwrpas y rôl, yn ôl yr heddlu, yw sicrhau bod dioddefwyr yn ymddiried yn y llu o'r alwad gyntaf un, a'u bod yn y pendraw yn gweld cynnydd yn nifer yr erlyniadau llwyddiannus.

Y llynedd, ar gyfartaledd, cafodd 41 o achosion trais yn y cartref eu cofnodi yn ardal Heddlu Gwent.

Roedd 561 achos o dreisio neu ymosodiad rhywiol rhwng 2018-19 - oedd yn gynnydd o 30% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae dioddefwyr wedi cynghori'r heddlu wrth iddyn nhw ymchwilio i'r maes ac yn y broses o benodi cydlynydd.

'Dechrau gweld gwahaniaeth'

Comisiynydd Heddlu Gwent, Jeff Cuthbert, oedd yn gyfrifol am greu'r swydd.

"Mae'r hyn rydyn ni wedi ei gyflwyno yng Ngwent wedi arwain at godiad yn nifer yr erlyniadau llwyddiannus," meddai.

"Mae tua 13% o'r holl achosion wedi arwain at erlyniadau llwyddiannus, sef y canran uchaf yng Nghymru ac mae e'n uwch na'r cyfartaledd ym Mhrydain.

"Rydyn ni'n dechrau gweld gwahaniaeth ond mae tipyn o ffordd i fynd eto. Fe hoffwn i weld llawer mwy o achosion llwyddiannus na hynny."

Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Dwi'n credu bod yr hyder a'r dewrder sydd ei angen ar unigolyn i godi'r ffôn yn y lle cyntaf yn hynod bwysig.

"Mae'r ymddiriedaeth a'r berthynas o'r eiliad gyntaf yna'n eithriadol o bwysig, felly os nad ydyn ni'n cael hynny'n iawn, mae'n golygu ein bod ni'n colli'r unigolyn hwnnw.

"Fe allai'r unigolyn fod yn rhywun sydd mewn perygl gwirioneddol, felly mae'n holl bwysig ein bod ni'n cael pethau'n iawn y tro cyntaf un."