Agor cwest sgowt 16 oed a syrthiodd o'r Gogarth
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi agor i achos marwolaeth bachgen 16 oed a fu farw yn ystod trip sgowtiaid i'r Gogarth yn Llandudno.
Bu farw Ben Leonard, o Stockport, ar 26 Awst 2018 ar ôl syrthio tua 200 troedfedd.
Clywodd y cwest bod parafeddygon wedi ymdrechu'n ofer i'w achub ar ôl iddo lanio ar lethr serth.
Mae disgwyl i'r gwrandawiad yn Rhuthun, sy'n cynnwys rheithgor ag 11 o aelodau, bara am o leiaf pedwar diwrnod.
Wrth amlinellu'r cefndir ar ddechrau'r cwest, dywedodd Crwner Cynorthwyol Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, David Pojur bod Ben "yn berfformiwr a sgriptiwr talentog" ac ar fin dechrau cwrs ffilm a theledu yn Salford.
Roedd wedi ennill medal aur gyda'r sgowtiaid ac yn gerddwr profiadol.
Doedd ymweld â'r Gogarth ddim yn rhan o gynlluniau gwreiddiol y grŵp roedd yn rhan ohono - Reddish Explorers.
Roedden nhw wedi trefnu i aros mewn gwersyll ym Metws-y-Coed ar 25 Awst a dringo'r Wyddfa'r diwrnod canlynol.
Ond gan fod y tywydd yn anffafriol, fe aeth y grŵp i Landudno yn hytrach.
Roedd Ben a dau fachgen arall wedi cerdded i fyny'r Gogarth ar wahân i griw arall - pum bachgen ac un o arweinwyr y grŵp - gyda'r disgwyl y byddai'r ddau grŵp yn cwrdd ar y ffordd.
Clywodd y cwest bod y tri bachgen ar ben y Gogarth pan aeth Ben ati i ganfod ffordd bosib i lawr.
Awgrymodd y ddau fachgen arall bod y ffordd dan sylw yn beryglus, ond fe wnaeth yntau ddyfalbarhau.
Yn ôl tyst, fe gerddodd ar hyd dibyn cul cyn dringo i lawr i sil arall ac yna llithro.
Mae'r cwest yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018