Argymell taliadau gofal plant i ACau
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau newydd yn ystyried rhoi taliadau gofal plant i aelodau'r cynulliad - ar gyfer gweithio oriau anarferol.
Yr awgrym gan gorff annibynnol yw y dylai ACau dderbyn hyd at £297 y mis.
Nod y taliadau yw ei gwneud yn haws i bobl sydd â theuluoedd ystyried gyrfa wleidyddol.
Mae'r newidiadau dan sylw hefyd yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i ACau gydag anableddau ac i'r rhai sydd ar gyfnod mamolaeth neu dadolaeth.
Fe fydd gan aelodau'r cyhoedd hawl i roi eu barn am y newidiadau tan fis Mawrth.
Fe fyddai unrhyw newidiadau yn dod i rym ym Mai 2021, ar ôl etholiadau'r Cynulliad.
Dywedodd Dame Dawn Primarolo, cadeirydd y Bwrdd Taliadau, mai'r nod oedd ceisio sicrhau ystod mor eang â phosib o aelodaeth y Senedd "a fydd yn ei dro yn rhoi gwell cynrychiolaeth i bobl Cymru".
Ar hyn o bryd mae ACau yn derbyn cyflog o £67,649 y flwyddyn.
Yn ôl y cynlluniau newydd byddai aelodau yn gallu hawlio hyd at £297 ar gyfer gofal plant neu oedolyn dibynnol y tu hwnt i oriau gwaith cyffredin - sef rhwng 09:00 a 18:00.
Fe fyddai ACau yn gorfod dangos tystiolaeth eu bod wedi defnyddio gofalwyr rhestredig.
Mae'r Bwrdd hefyd wedi awgrymu y dylai ACau sydd ar gyfnod o famolaeth neu dadolaeth, gael yr hawl i gyflogi aelod arall o staff tra'u bod nhw'u hunain i ffwrdd o'r gwaith.
Fe fyddai'i ACau gydag anableddau yn gallu hawlio am gefnogaeth ar gyfer y gost o newidiadau "rhesymol".
'Cydymffurfio â gofynion y gyfraith'
Mae'r Bwrdd Taliadau yn gorff annibynnol, ac ni fydd gan ACau unrhyw ran yn y broses o benderfynu.
Fe fydd newidiadau eraill yn cynnwys rheolau mwy pendant ynglŷn â thaliadau ar gyfer swyddfeydd ACau yn eu hetholaethau.
Daw hyn ar ôl ymchwiliad i swyddfa etholaeth gafodd ei hagor gan Gareth Bennett, cyn AC UKIP sydd bellach yn aelod annibynnol. Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad ei fod wedi rhentu swyddfa tamp nad oedd modd ei defnyddio, a hynny yn groes i gyngor cyfreithwyr.
Yn y dyfodol fe fydd disgwyl i aelodau ddilyn trefn ffurfiol sy'n sicrhau fod cytundebau, prydlesau a dogfennau perthnasol "yn cydymffurfio â gofynion y gyfraith".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2018