Annog ffermwyr i erlyn tipwyr sbwriel yn breifat
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o ffermwyr o Ben-y-bont ar Ogwr yn annog pobl sy'n cael trafferth gyda thipio sbwriel yn anghyfreithlon i ystyried erlyn troseddwyr yn breifat.
Fe gafodd sbwriel ei adael ar dir comin yn ardal Bryncethin y llynedd a dim ond ar ôl bygwth mynd â'r unigolyn oedd yn gyfrifol i'r llys y cafodd y sbwriel ei glirio.
Yn ôl Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr nid yw cynghorau yn defnyddio arian cyhoeddus i glirio gwastraff anghyfreithlon o dir preifat.
Dywedodd Huw Griffiths, ysgrifennydd Cymdeithas Cominwyr Coety Wallia: "O'dd digwyddiad fan hyn mis Awst y flwyddyn ddiwetha', ac oedden ni'n gallu gweld o fewn y gwastraff enw a chyfeiriad rhywun sy'n byw yn lleol.
"Aethon ni at yr heddlu a riporto'r mater fel trosedd, ond fe benderfynodd yr heddlu ddim cymryd achos, a'n cyfeirio ni at y cyngor.
"Aethon ni at y cyngor ag unwaith eto riporto fe, a chynnig mynd i'r llys.
"O'dd lot o lunie dan ni ond daeth y cyngor 'nôl a dweud os nad oedd y drosedd wedi digwydd ar dir oedd yn eiddo i'r cyngor, doedd dim diddordeb 'da nhw edrych ar y mater o gwbl."
Fe gytunodd aelodau o bwyllgor y tir comin fynd a'u hachos at gwmni o gyfreithwyr oedd yn fodlon eu helpu i geisio erlyn yr unigolyn yn breifat.
"Gaethon ni glywed gan un o swyddogion y gymdeithas pori yn gofyn am help gan nad oedd help yn dod gan y cyngor na'r heddlu, ac ar y pryd, doedd dim llwybr amlwg ganddyn nhw i ddelio gyda'r mater mewn ffordd gadarnhaol," meddai Aled Owen, cyfreithiwr o gwmni Harrison Clark Rickebys.
"Beth oedd yn bwysig fan hyn oedd rhoi strwythur i ffermwyr bychain fel rhain i allu gwneud hyn, a chael yr ochr ariannol, gyda'r posibilrwydd o gael canlyniad teg.
"Ni'n deall fod cyllid yn brin gan lawer o awdurdodau ond beth sydd eisiau cael yw cynllun hirdymor i wneud yn siŵr bod yr achosion yma yn cael eu herlyn yn addas a bod y cymdeithasau pori yma ddim yn cymryd y baich i gyd."
Cynghorau'n gwario llai
Cyn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd, fe benderfynodd yr unigolyn i glirio'r llanast a thalu'r costau cyfreithiol.
"Gaethon ni ganlyniad eitha' da," meddai Mr Griffiths.
Y llynedd, cafodd £1.71m ei wario gan gynghorau Cymru ar lanhau'r sbwriel. 10 mlynedd yn ôl, £2.94m oedd y ffigwr.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr "nad ydy cynghorau yn cael defnyddio arian cyhoeddus i drefnu bod gwastraff anghyfreithlon yn cael ei glirio o dir sydd o dan reolaeth breifat".
"Maen nhw'n cynnig cymaint o gefnogaeth a phosib i geisio adnabod y rhai sydd yn gyfrifol a sicrhau bod modd cymryd camau pellach yn eu herbyn," meddai.
"Mae pobl yn cael eu hannog i waredu â nwyddau nad ydynt eu hangen mewn modd cyfrifol, hynny yw, mewn safleoedd ailgylchu swyddogol."
'Rhatach tipio'
Yn ôl Cymdeithas Cominwyr Coety Wallia, nid unigolion yn taflu sbwriel o'u cartrefi ydy'r broblem fwyaf bellach, a bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon gan y rheiny sy'n cael eu talu i glirio gwastraff o dai wedi gwaith adeiladu.
"Mae pob math o bethau yn cael eu gadael yma," meddai Mr Griffiths.
"Gan amlaf hen ddodrefn, bagiau du, hen baent, hen olew, cemegau, gwydr, plastig - pob math o bethe chi ddim moyn ar y tir ac yn agos at anifeiliaid.
"Mae'n rhatach, a siŵr o fod lot yn gynt, i fynd mas gyda'r hwyr a tipio'r gwastraff ar y comin."
Mae Cymdeithas Cominwyr Coety Wallia bellach yn ystyried camau eraill fel gosod camerâu CCTV mewn ardaloedd lle mae sbwriel yn cael ei adael yn rheolaidd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2016