Cynnydd yn yr henoed sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae canran y pensiynwyr yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi wedi cynyddu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Dywed Sefydliad Joseph Rowntree fod bron i un ymhob pump o bensiynwyr (19%) yn byw mewn tlodi.
Yn ôl eu gwaith ymchwil, Cymru sydd â'r canran uchaf ond un o wledydd a rhanbarthau'r DU, o'i gymharu ag 20 mlynedd yn ôl lle Cymru oedd yr isaf ond un.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi yn llwyr i daclo tlodi ac anghyfartaledd yng Nghymru, ond fod degawd o lymdra dan law Llywodraeth y DU ynghyd â thoriadau yn eu lwfansau wedi "taro cymunedau Cymru yn galed".
Dywed yr adroddiad mai Cymru sydd â'r canran uchaf o dlodi ymhlith pensiynwyr o holl wledydd y DU.
Ond mae'r canran o blant sy'n byw men tlodi yng Nghymru wedi lleihau i lai nag un ym mhob tri (29%), sydd fymryn yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer y DU sef 30%.
Mae'r cyfartaledd yn codi i 44% o ran plant sy'n byw mewn teuluoedd un rhiant.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd mynd i'r afael â thlodi "yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon".
Barn pensiynwraig
Dywedodd Eileen Vaughan, 84 oed o Flaenafon, fod dod â dau ben llinyn ynghyd yn anodd.
"Mae'n rhai i chi feddwl am beth sydd gennych yn barod cyn mynd i brynu," meddai.
"Dwi'n mynd i'r siopau nawr ac mae pethau yn codi yn eu pris bod wythnos.
"Yr un arian sydd gennym ni a blynyddoedd yn ôl, ond mae'n rhaid dod i ben ac mae costau byw wedi codi," meddai Ms Vaughan, sy'n derbyn pensiwn gwladol.
Mae gan Emma Williams, 37, dri o blant - 16 oed, tair oed ag wyth mis.
Dywedodd y fam sy'n byw ym Mlaenafon pan iddi gael ei hail blentyn, Darwin, nid oedd yn gymwys ar gyfer cynllun Dechrau'n Deg - cynllun sydd â'r nod o daclo tlodi plant.
Pan ddychwelodd i waith mewn cymdeithas dai, dywedodd mai ei theulu oedd yn talu am ofalwr i'r plant.
"Roedd e'n ddrud iawn, tua £500 y mis dwi'n meddwl.
"Os na fyddwn yn gweithio yn llawn amser yna mae'n gyfran mawr o'r cyflog petai fi'n rhan amser."
'Cyfeiriad cywir'
Ond yna dywedodd iddyn nhw symud i dŷ mwy o faint mewn rhan arall o'r dref, ac yna roedden nhw'n gymwys ar gyfer y cynllun.
Dywedodd: "Mae'n fater o loteri'r post cod, yndi? Pe bai chi ar gyflog isafswm ac yn gorfod talu hynny, yna dwi'n gallu gweld pam nad yw bobl yn mynd i weithio.
"Rwy'n credu bod y 30 awr o ofal plant am ddim yn anhygoel, a dwi'n meddwl fod hynny yn gam i'r cyfeiriad cywir.
"Pe byddwn yn rhoi'r gorau i waith nawr oherwydd ei fod yn galed a bod yr arian ddim yn gwneud synnwyr, ond a fyddwn yn cael yr un gwaith a'r un tâl mewn tair blynedd ac dwi'n cael nawr?"
Dywedodd Claire Ainsley, cyfarwyddwr gyda Sefydliad Joseph Rowntree, eu bod wedi sylwi fod lefelau tlodi yn parhau yn uchel.
"Mae'n rhy fuan i ddweud beth sydd tu cefn i'r peth.
"O bosib mae pobl yn dewis ymddeol ond nid oes ganddynt ddigon o gynilon i gynnal eu hunain," meddai.
Beth mae llywodraethau yn ei ddweud?
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau taw cael pobl yn ôl i waith "yw'r ffordd orau allan o dlodi" a bod "mwy o bobl yn gweithio nac erioed o'r blaen".
"Mae cyflogau yn cynyddu yn fwy na chwyddiant, ac mae tlodi absoliwt yn is nac yn 2010," meddai llefarydd.
"Rydym yn gwybod fod rhai angen mwy o help, a dyna pam rydym yn gwario dros £95bn y flwyddyn ar fudd-daliadau pobl oedran gwaith.
"Fe fydd miliynau o bobl yn gweld codiad yn eu taliadau budd-dal o fis Ebrill, ac rydym hefyd yn cynyddu arian pensiynwyr bob blwyddyn trwy'r drefn clo triphlyg."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod degawd o lymdra dan law Llywodraeth y DU wedi taro cymunedau Cymru yn galed.
"Mae'r arwyddion yn dangos y bydd lefelau o dlodi yn codi yng Nghymru o ganlyniad uniongyrchol i newidiadau budd-dal a threthi Llywodraeth y DU."
Ychwanegodd y bydd yr effaith fwyaf ar bobl ar y lefelau incwm isaf.
"Fe fydd cartrefi sydd â phlant yn profi colledion yn fwy nac eraill, gydag amcangyfrif y bydd 50,000 yn fwy o blant yn y categori tlodi erbyn 2021/22."
Dywedodd fod tystiolaeth fod camau Llywodraeth Cymru yn "cael effaith positif ar achosion crai tlodi ac anghyfartaledd".
"Rydym hefyd yn gweithio gyda Comisiynydd Pobl Hŷn i gefnogi ei hymgyrch i gynyddu'r nifer sy'n derbyn credid pensiynwr."
Dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o ran ei bwerau, ond yn y pen draw Llywodraeth y DU sydd â'r gallu i fabwysiadu polisïau fyddai'n trawsnewid y sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd16 Medi 2016
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2019