'Saffach gyrru trwy Loegr na chanolbarth Cymru mewn car trydan'

  • Cyhoeddwyd
Neil LewisFfynhonnell y llun, TrydaNi
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Neil Lewis dim ond un pwynt gwefru cyflym sydd rhwng Rhaeadr a Llanfair-ym-Muallt ar yr A470

Does dim digon o bwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan yng nghanolbarth Cymru, yn ôl prif weithredwr cwmni ynni cymunedol.

Dywedodd Neil Lewis o gwmni TrydaNi ei bod hi'n "saffach i fynd trwy Loegr na thrwy ganolbarth Cymru mewn car trydan" oherwydd y diffyg pwyntiau gwefru.

"Fel o'n i'n dweud wrthyn nhw dwy flynedd yn ôl, 'na'i gyd sydd angen i'r llywodraeth wneud yw rhoi dau yn y canolbarth," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod mwy na 990 o bwyntiau gwefru hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru - cynnydd o 670 ym mis Ebrill y llynedd.

Er hynny, dim ond 60 o'r rheini sydd yn gallu gwefru car trydan mewn llai nag un awr, gyda'r rhan fwyaf yn cymryd pedair awr ar gyfartaledd.

Ar 4 Chwefror, fe gyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson y bydd gwaharddiad ar geir sy'n defnyddio tanwyddau ffosil yn dod i rym yn 2035, pum mlynedd yn gynt na'r disgwyl.

Ond yn ôl Mr Lewis, mae diffyg buddsoddiad ym mhwyntiau gwefru yma yn broblem sy'n gwneud hi'n "anodd iawn teithio rownd Cymru mewn car trydan".

Dywedodd Mr Lewis, sydd wedi gweithio yn y sector ynni cymunedol am naw mlynedd, bod nifer o bobl sy'n berchen ar geir trydan yn osgoi'r canolbarth ac yn gyrru trwy Loegr er mwyn cwblhau eu siwrne o'r de i'r gogledd.

Ffynhonnell y llun, ZAP-MAP
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond 60 pwynt gwefru cyflym sydd yng Nghymru

O gymharu â'r 60 pwynt gwefru cyflym dros Gymru gyfan, mae cyngor dinas Milton Keynes wedi gosod 56 pwynt gwefru cyflym yno.

Yn ôl ystadegau Adran Drafnidiaeth y DU a gafodd eu cyhoeddi yn Rhagfyr 2019, does dim pwyntiau gwefru cyflym yng Ngwynedd, Conwy, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent na Thorfaen.

Yn ogystal, dywedodd yr adroddiad bod gan Yr Alban 7.5 pwynt gwefru cyflym am bob 100,000 person, o gymharu â Chymru, sydd gyda 1.8 i bob 100,000 person.

Dywedodd Mr Lewis: "Rhaid cael cwmni Cymreig i ddeall y sefyllfa leol."

Ond dywedodd ei bod hi'n anodd denu buddsoddwyr, gan fod "dim arian" yn cael ei wneud o bwyntiau gwefru ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Strategaeth Gwefru i Gymru y flwyddyn yma

Mae aelodau o'r Cynulliad hefyd wedi beirniadu polisi ceir trydan Llywodraeth y DU.

Dywedodd Mark Isherwood, AC Gogledd Cymru, wrth drafod ceir trydan yn y Cynulliad ar 4 Chwefror: "Er bod trawsnewid i gerbydau trydanol ac ynni arall carbwn-isel ar ei ffordd, mae'n cael ei weithredu llawer yn arafach yng Nghymru nag yng ngweddill y DU."

Yn 2020, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Strategaeth Gwefru i Gymru fydd yn nodi rôl y llywodraeth mewn cynyddu'r seilwaith gwefru cerbydau trydan.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd ein cyllideb ddiweddaraf yn cynnwys £29m i gefnogi'r newid i gerbydau allyriadau isel.

"Y sector preifat fydd yn cyflawni'r rhan fwyaf o'r pwyntiau gwefru, ond byddwn yn gweithio gyda nhw a'r sector cyhoeddus i annog pobl i newid i gerbydau allyriadau carbon isel."

Ychwanegodd: "Yn nes ymlaen eleni byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth gwefru cerbydau trydan. Fel sail i'r strategaeth rydym yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar wahanol fodelau ar gyfer ehangu ein seilwaith gwefru yng Nghymru."