Ffotograffydd wedi lladd ei hun ar ôl cael ei arestio
- Cyhoeddwyd
Clywodd cwest fod ffotograffydd o Aberystwyth wedi lladd ei hun ar ôl cael ei arestio a'i gwestiynu am droseddau rhyw honedig.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Keith Morris ar draeth ger Borth yng Ngheredigion ar 5 Hydref y llynedd.
Roedd Mr Morris, 61, yn ffotograffydd llawrydd adnabyddus yn ardal Aberystwyth, ac yn gyfrannwr cyson i raglenni teledu a radio.
Dywedodd crwner Ceredigion mai achos ei farwolaeth oedd boddi.
Roedd gwraig Mr Morris wedi ei adrodd ar goll ar 4 Hydref wedi iddi ddychwelyd adref a gweld nodyn gan ei gŵr ar fwrdd y gegin.
Yn y nodyn dywedodd Mr Morris ei fod yn mynd allan i gerdded a gofynnodd i'w deulu i gofio amdano.
'Gwneud ein bywydau'n haws'
Fe wnaeth y crwner, Peter Brunton ddarllen rhan o ddatganiad gan Mrs Morris, oedd yn dweud fod ei gŵr wedi cael ei gwestiynu gan yr heddlu.
Ychwanegodd Mrs Morris bod ei gŵr wedi bod yn ymchwilio i geisio canfod beth allai canlyniad hynny fod a beth fyddai effaith hynny ar ei deulu.
Dywedodd bod Mr Morris wedi dweud wrthi y byddai'n "gwneud ein bywydau'n haws yn y tymor hir pe bai ddim yno".
Dywedodd y Sarjant Daniel Hughes wrth y cwest bod Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn cwyn am droseddau rhyw honedig ym mis Ebrill 2019, a bod Mr Morris wedi'i enwi yn yr adroddiad.
Cafodd Mr Morris ei arestio ym mis Medi a'i gwestiynu yng ngorsaf heddlu Aberystwyth.
Dywedodd y Sarjant Hughes bod Mr Morris wedi gwadu'r cyhuddiadau a'i fod wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth heb ei gyhuddo o unrhyw drosedd.
Ymddiheuro ar fideo
Ychwanegodd bod ffôn symudol wedi cael ei adfer, gyda fideo gan Mr Morris arno yn ymddiheuro i'w deulu ac yn dweud cymaint roedden nhw yn ei olygu iddo.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd ganfod e-bost gan Mr Morris at gleient, oedd yn dweud nad oedd yn gallu gweithio fel ffotograffydd bellach "oherwydd argyfwng mawr yn fy mywyd".
Dywedodd y crwner nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus yn ymwneud â marwolaeth Mr Morris, a'i fod dan "straen anferthol" ar y pryd.
Ychwanegodd nad oedd yn credu bod Mr Morris wedi neidio o glogwyn, a'i fod yn hytrach wedi mynd i mewn i'r môr.
Fe wnaeth Mr Brunton gofnodi marwolaeth Mr Morris fel achos o hunanladdiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2019