Darlledwyr yn trin pobl ddall 'yn israddol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Elin Williams o Eglwysbach fod sain-ddisgrifiad yn "rhoi mwynhad" i bobl ddall

Mae pobl ddall yng Nghymru yn dweud eu bod yn cael eu trin yn israddol gan ddarlledwyr, sydd ddim yn gwneud digon o'r dechnoleg sy'n eu helpu i wylio rhaglenni teledu.

Rhaid i'r BBC, ITV a S4C gynnig gwasanaeth sain-ddisgrifio ar 10% o'u rhaglenni, fel bod llais ychwanegol yn egluro beth sy'n digwydd ar y sgrin.

Mae rhai o'r gynulleidfa sydd wedi colli'u golwg yn cwyno bod rhai rhaglenni Cymreig amlwg heb eu sain-ddisgrifio, ac mae 'na alwad i gynyddu'r isafswm.

Dywedodd BBC Cymru y bydd pob rhaglen ddrama a chomedi o'r flwyddyn nesaf yn cynnwys gwasanaeth sain-ddisgrifio, a dywedodd y rheoleiddiwr Ofcom eu bod yn sicrhau bod darlledwyr yn cwrdd â'r cwota 10%.

Mae sain ddisgrifio ar gael ar y mwyafrif o setiau teledu erbyn hyn, ac yn golygu bod modd dewis defnyddio'r gwasanaeth yn union fel mae modd dewis gwylio gydag is-deitlau.

'Gwael iawn'

Mae'r cwota ar gyfer sain-ddisgrifio yn berthnasol i'r BBC ac ITV ledled y DU.

Felly er bod y ddau ddarlledwr yn dweud eu bod yn sain-ddisgrifio mwy na 10% o'u hamserlenni, does dim gorfodaeth ar wasanaethau Cymreig fel BBC One Wales ac ITV Wales i sain-ddisgrifio unrhyw un o'u rhaglenni gwreiddiol cyn belled bod y cwota cyffredinol yn cael ei gwrdd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd sain-ddisgrifiad ar y gyfres Un Bore Mercher/Keeping Faith

Ar y llaw arall, mae'n rhaid i S4C gwrdd â'r isafswm o 10% ,sy'n golygu y gall ei chynulleidfa yng Nghymru gael mynediad at gyfran uwch o raglenni Cymraeg gyda sain-ddisgrifiad na rhaglenni Saesneg BBC Cymru ac ITV Cymru.

Mae sain-ddisgrifio ar gael yn ystod llawer o raglenni'r oriau brig fel operâu sebon a dramâu, ond dywedodd yr elusen RNIB Cymru fod argaeledd y gwasanaeth yn parhau i fod yn "wael iawn".

Galw am gynyddu'r cwota

Dywedodd cyfarwyddwr RNIB Cymru, Ansley Workman: "Yn yr RNIB rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda darlledwyr y DU.

"Mae lleiafswm statudol o 10%, ac ry'n ni wedi bod yn ceisio eu gwthio nhw i gynyddu hynny hyd at 20%."

Ychwanegodd Ms Workman nad yw'r isafswm yn gorfodi BBC Cymru neu ITV Cymru i sain-ddisgrifio 10% o'u rhaglenni, cyn belled â bod gwasanaethau'r DU gyfan yn cyrraedd y cwota.

"Mae'n golygu bod pobl yng Nghymru yn cael profiad gwaeth na phobl yng ngweddill y DU o ran sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at raglenni teledu," meddai.

Gwylio fel teulu

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Sutton a'i ferch Nell (ar y chwith ar lin ei thad) â nam ar eu golwg

Mae'r teulu Sutton yn byw yn Llwyngwril yng Ngwynedd - Rachel a Paul a'u plant Isaac sy'n 12, Nell sy'n bedair a Martha sy'n dair oed.

Mae Nell yn dwli ar raglenni Cyw a CBeebies. Mae ganddi nam ar ei golwg sy'n golygu mai golau yn unig mae hi'n gweld, ac mae gan ei thad, Paul yr un broblem.

Yn ôl Mr a Mrs Sutton, mae sain-ddisgrifio wedi bod yn hanfodol i'w galluogi nhw i wylio rhaglenni fel teulu.

Dywedodd Mrs Sutton: "Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gallu eistedd a gwylio rhaglenni gyda'n gilydd, ond hefyd i Nell allu gwylio rhaglenni yn annibynnol.

"Does dim rhaid iddi ddibynnu arna i, neu ei brawd a'i chwaer, i ddisgrifio'r hyn sy'n digwydd."

'Gwella'n araf'

Dywedodd Mr Sutton fod angen i'r darlledwyr gynyddu nifer y rhaglenni sydd wedi'u sain-ddisgrifio.

"Mae'n gwella'n araf. Rwy'n credu bod modd iddyn nhw neud fwy o ymdrech i gyflymu pethau," meddai.

Ychwanegodd Mrs Sutton ei bod yn "warthus" nad yw rhai rhaglenni plant poblogaidd ar sianeli fel CBeebies yn dal i gael eu disgrifio ar sain.

Mae rhai rhaglenni amlwg i blant ar Cyw hefyd heb eu sain-ddisgrifio.

Dywedodd Ms Sutton fod gan rai o'r rhaglenni plant "ychydig iawn o ddeialog, a does dim disgrifio naturiol fel rhan o'r naratif i raglenni plant".

"Dyna'r cyfle perffaith i ychwanegu sain-ddisgrifiad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd BBC Cymru y bydd eu holl raglenni comedi a drama yn cynnwys gwasanaeth o'r flwyddyn nesaf

Mae'r darlledwyr i gyd yn llwyddo i ddarparu mwy na'r isafswm o raglenni gyda sain-ddisgrifio.

Dywedodd llefarydd ar ran S4C bod y "dymuniad yna i wneud mwy" ond bod diffyg cyllideb i ganiatáu hynny.

Ychwanegodd: "Yn sgil y diddordeb sydd wedi ei mynegi, byddwn yn ymchwilio i'r posibilrwydd o sain-ddisgrifio rhai o raglenni Cyw megis Deian a Loli."

Dywedodd BBC Cymru: "Mae'n ofynnol gan Ofcom bod o leiaf 10% o raglenni teledu gyda gwasanaeth sain-ddisgrifio... mae sain-ddisgrifio eisoes ar gael ar 20% o gynnwys y BBC [drwy'r DU] gan gynnwys nifer o raglenni Cymreig fel Gavin & Stacey a Keeping Faith.

"Ond ein huchelgais yw gwneud mwy. O'r flwyddyn nesaf bydd BBC Cymru hefyd yn cynnwys gwasanaeth sain-ddisgrifio ar bob rhaglen ddrama a chomedi newydd sy'n cael eu cynhyrchu ar gyfer BBC One Wales ac iPlayer BBC."

Dywedodd ITV ei fod yn cynnig dros 20% o'i rhaglenni gyda sain-ddisgrifiad.