Diffynnydd achos bwa croes yn rhoi tystiolaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio pensiynwr trwy ei saethu gyda bwa croes wedi dechrau rhoi tystiolaeth yn yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Bu farw Gerald Corrigan yn yr ysbyty wythnosau ar ôl cael ei saethu tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi fis Ebrill y llynedd.
Mae Terence Whall, sy'n 39 oed ac o Fryngwran, yn gwadu mai fo yw'r llofrudd gan honni ei fod yn cael rhyw gyda dyn arall, Thomas Barry Williams, pan ddigwyddodd yr ymosodiad ar Mr Corrigan.
Ddydd Iau fe ddywedodd wrth y rheithgor sut ddaeth i nabod Mr Williams, sy'n gwadu bod ei berthynas gyda'r diffynnydd yn un rhywiol.
'Daethon ni'n agosach'
Dywedodd Mr Whall bod Mr Williams wedi dechrau dod i ddosbarthiadau campfa roedd yn arfer eu rhedeg ym Mangor, a hynny ar argymhelliad cymar Mr Williams.
Aeth y ddau ddyn ymlaen i gynhyrchu sawl DVD am dechnegau hunanamddiffyn.
Dywedodd bod y berthynas wedi datblygu'n raddol i fod yn fwy na chyfeillgarwch ryw dair blynedd yn ôl.
Honnodd bod y ddau'n mynd trwy brofiadau teuluol cythryblus cyffelyb ar y pryd.
"Fe ddaethon ni'n agosach," meddai, "Roedden ni'n dau wedi cael digon ar y merched yn ein bywydau."
Dywedodd bod y berthynas wedi datblygu i fod yn un corfforol pan roedd y ddau yn cerdded ar fynydd Caergybi.
"Roedd yn eitha' diarffordd," meddai. "Y tro cynta' wnaethon ni gusanu a chyffwrdd yn ein gilydd yn rhywiol."
Honnodd bod yna saith neu wyth o achlysuron tebyg.
"Doedd o ddim yn lletchwith i gychwyn," dywedodd. "Ond yna nes i ddechra' teimlo'n lletchwith ynghylch y peth, Ro'n i'n anghyfforddus."
Clywodd y llys bod Mr Whall yn therapydd chwaraeon, hyfforddwr tai chi a hyfforddwr personol.
Daeth i nabod ei gyd-ddiffynnydd, Gavin Jones yn 2012 neu 2013.
Dywedodd bod Mr Jones, sy'n 36 oed ac o Fangor, wedi dechrau dod ato am driniaeth at wargrymedd (curvature of the spine).
"'Naeth o ddechrau dod i ddosbarthiadau tai chi a daethon ni'n ffrindiau," meddai.
Gwerthu bwa
Yn ôl Mr Whall fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn bwâu coes tua hydref 2018 - yn rhannol er mwyn tynnu sylw ei fab ifanc o'i Xbox ac yn rhannol er mwyn "hela a byw mwy oddi ar y tir".
Dywedodd bod ei gymar wedi talu £350 am ei fwa cyntaf, a'i fod ddim yn gwybod llawer am sut i'w ddefnyddio.
Roedd yn defnyddio bêls gwair a bag dyrnu fel targedau wrth ymarfer mewn cae ger ei dŷ.
Honnodd bod dyn wedi dod i'r tŷ ddiwedd Ionawr 2019 tra roedd yn ymarfer, gan holi yn y lle cyntaf ynghylch prynu ei fan cyn dangos diddordeb yn y bwa croes.
"Fe roddodd £180 i mi amdano," meddai.
Prynodd foltiau ar-lein yn Chwefror a Mawrth 2019, gyda'r bwriad o brynu bwa croes newydd.
Archebodd fwa Excalibur Micro ar 11 Ebrill ac fe gyrhaeddodd ar 24 Ebrill - pryniant a ddaeth i sylw ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru wedi i Mr Corrigan gael ei saethu ar 19 Ebrill.
Dywedodd Mr Whall bod y boltiau roedd wedi eu harchebu'n anaddas i'r bwa newydd.
Dywedodd Mr Whall ei fod wedi ymweld â chartref Mr Corrigan cyn Ebrill 2019, am gyfnod byr, gyda Gavin Jones, oedd yn chwilio am ddyn o'r enw Richard Wyn Lewis, er mwyn casglu cyflog ganddo.
Mae enw Mr Lewis wedi codi yn ystod yr achos mewn cysylltiad â honiad o dwyllo Mr Corrigan, a'i gymar, Marie Bailey.
Dywedodd Mr Whall bod Mr Lewis ddim yno. Ychwanegodd nad oedd erioed wedi cwrdd â Mr Lewis bryd hynny, nag yn gwybod beth oedd enw ei dŷ.
Mynnodd Mr Whall nad oedd erioed wedi cyfarfod Mr Corrigan na Ms Bailey, a'i fod yn yr ardal ger eu cartref, Gof Du ar 17 Ebrill er mwyn "bod allan o'r tŷ, am awyr iach".
Parciodd bryd hynny yn ardal Traeth Porth Dafarch.
"Roedd gen i lawer ar fy meddwl... Barry, Emma," meddai. "Ro'n i am eistedd ar y creigiau a synfyfyrio, gwneud Tai Chi."
Dywedodd ei fod wedi dychwelyd i'r traeth ar 18 Ebrill gyda Mr Williams. Honnodd i'r ddau gael cyfathrach rywiol, a bod yna fenig rwber, cyffion ac olew baban yng nghist y car.
Mynnodd bod dim cysylltiad rhyngddo a Mr Lewis.
'Dim dewis ond dweud y gwir'
Dywedodd nad oedd wedi datgelu natur ei berthynas gyda Mr Williams yn y lle cyntaf wrth gael ei holi gan yr heddlu oherwydd "doedd o ddim mo'u busnes" ac roedd yn ofni'r effaith bosib ar ei blant a'i fusnes.
"Doedd neb â'r hawl i wybod," meddai. "Ro'n i hefo Emma a ddim eisio niweidio'r berthynas."
Ond yn y diwedd, meddai, doedd "dim dewis ond dweud y gwir".
Gofynnodd ei fargyfreithiwr: "A wnaethoch chi saethu Gerald Corrigan?" Atebodd Mr Whall: "Na, wnes i ddim."
Mae Mr Whall a Mr Jones yn gwadu cyhuddiad sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Mae Mr Jones yn gwadu cynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Plediodd dau ddiffynnydd arall, Martin Roberts a Darren Jones, yn euog i gynnau tân yn fwriadol yn gynharach yn yr achos.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020