Achos bwa croes: Trafod defnydd car ar y noson

  • Cyhoeddwyd
Gerald CorriganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Gerald Corrigan ym mis Mai 2019

Mae'r rheithgor yn achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio'r pensiynwr Gerald Corrigan wedi clywed tystiolaeth am gar oedd yn rhan o'r ymchwiliad.

Bu farw Mr Corrigan, 74 oed, wedi digwyddiad y tu allan i'w dŷ ger Caergybi ar 19 Ebrill 2019 pan aeth i drwsio dysgl loeren teledu.

Roedd wedi ei saethu gan fwa croes, a bu farw yn yr ysbyty ym mis Mai.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, cafodd yr heddwas PC David Allmark ei groesholi gan y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, David Elias QC.

Gofynnodd i PC Allmark os oedd y data ar noson y llofruddiaeth, oedd yn awgrymu fod sawl drws wedi agor ar gerbyd aeth yn ôl i gartref y diffynnydd, yn gyson gyda mwy nag un person yn gadael y car.

Dywedodd yr heddwas fod hynny yn bosib, cyn i'r bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad Peter Rouch ofyn iddo wedyn "sawl drws oedd wedi eu cau?" "Dim ond un," meddai PC Allmark.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr erlyniad fod Gerald Corrigan yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu

Yna fe ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad iddo am honiad cynharach fod goriad arbennig wedi gorfod a bod yn bresennol pan gafodd cerbyd Land Rover Discovery ei yrru ar 3 Mehefin 2019 i hen chwarel yn Llanllechid ger Bangor.

Cafwyd hyd i'r cerbyd yma wedi ei ddinistrio'n ddiweddarach.

Wrth gael ei groesholi, fe gytunodd PC Allmark y gallai goriad arall fod wedi cael ei addasu gyda theclyn arbennig sydd ar gael ar y we.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai mwy nag un person wedi gallu gyrru'r car y diwrnod hwnnw, fe atebodd yr heddwas "mae hynny yn bosib".

Clywodd y llys dystiolaeth gan Michael Sewell, peiriannydd technegol o gwmni Sky.

Dywedodd wrth y llys fod Mr Corrigan wedi bod yn gwylio rhaglen oedd wedi ei recordio ar ei flwch Sky ar y noson pan gafodd ei saethu.

Am 00:28, fe stopiodd Mr Corrigan a gwylio'r rhaglen.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd gyfrifiadur yn dangos safle honedig y saethwr ger y wal yn amgylchynu'r tŷ, ac yn wynebu'r ddysgl loeren

Cafodd Mr Sewell ei holi am y ddysg lloeren oedd ar lawr tu allan i gartref Mr Corrigan ar y noson y cafodd ei ladd, a faint o symudiad oedd angen ar y lloeren i darfu ar y signal.

Dywedodd y byddai dim ond yn cymryd symudiad bychan iawn i effeithio ar y signal, ac ni fyddai gwneud hyn yn "broblem o gwbl".

Cyhuddiadau

Mae'r diffynnydd yn yr achos, Terence Michael Whall, 39 oed o Fryngwran, yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac un diffynnydd arall, Gavin Jones, 36 o Fangor - yn gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae'r ddau ddiffynnydd yn gwadu cyhuddiad pellach, sy'n ymwneud â cherbyd Land Rover Discovery, o gynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.

Ddydd Llun fe blediodd dau ddiffynnydd arall, Martin Roberts a Darren Jones, yn euog i gynnau tân yn fwriadol.

Mae'r achos yn parhau.