Bwriad i gau canolfan dysgu gyrru yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
CibynFfynhonnell y llun, Google

Mae yna fwriad i gau canolfan sy'n rhoi profion gyrru lorïau a bysus yng Nghaernarfon.

Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eu bod nhw'n parhau i edrych am lefydd cyfagos ond nad oedd unrhyw le "addas".

Bydd y profion yn cael eu symud o'r ganolfan ar stad ddiwydiannol Cibyn i Fangor a Wrecsam maes o law.

Dywedodd John Selbey, rheolwr gweithrediadau o'r DVSA, eu bod nhw "wedi ymrwymo i waredu gorsaf profi cerbydau nwyddau Caernarfon".

"Rydyn ni wedi archwilio profion amgen mewn safleoedd yng Nghaernarfon a'r cyffiniau ond nid yw'r rhain yn addas ar hyn o bryd," meddai.

"Byddwn yn parhau i chwilio am safleoedd amgen. Hyd nes y daw datganiad pellach, dylai cwsmeriaid barhau i archebu profion yng Nghaernarfon.

"Mae cynlluniau wrth gefn ar waith i symud profion LGV a cheir a threlars i'r safle profi presennol yn Wrecsam.

"Mae'r safle profi presennol ym Mangor yn cael ei baratoi ar gyfer profi ceir a threlars."

Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth - sydd wedi delio â phryderon cwmnïau hyfforddi gyrwyr yn ei etholaeth - y byddai hi'n "gwbl annerbyniol" petai canolfan Caernarfon yn cau.