Ffordd osgoi'r Drenewydd: 'Pleser ymweld' â'r dref

  • Cyhoeddwyd
The opened Newtown Bypass
Disgrifiad o’r llun,

Cychwynnodd y ceir cyntaf ddefnyddio'r ffordd osgoi yn Chwefror 2019

Mae ffordd osgoi gwerth miliynau o bunnoedd wedi gwneud tref yn "bleser i ymweld â hi eto" yn y flwyddyn ers iddi agor.

Roedd tagfeydd o hyd at 45 munud i mewn i, ac o gwmpas Y Drenewydd yn digwydd yn aml cyn i'r ffordd newydd agor.

Dywedodd maer y dref David Selby bod "ciwiau diddiwedd" a llygredd aer nawr ond yn "atgofion gwael".

Ond dywedodd un busnes bod rhai masnachwyr wedi colli busnes gan fod y traffig bellach ddim yn teithio trwy'r dref.

Yn dilyn trafodaethau cafodd y ffordd osgoi ganiatâd terfynol yn 2015, ac agorodd yn swyddogol yn Chwefror 2019.

Dywedodd Mr Selby: "O safbwynt ymwelwyr gall Y Drenewydd nawr fod yn fwy na rhwystr i'w ofni ar y ffordd i'r arfordir.

"Mae'r ffordd osgoi wedi rhyddhau'r dref o lot o'r traffig ac wedi gwneud e'n bleser ymweld â hi eto."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr AC lleol Russel George bod y ffordd osgoi yn helpu twf busnesau

Dywedodd yr AC Russel George: "Mae llif traffig wedi gwella lot ac mae'r ffordd osgoi yn barod yn cefnogi twf busnesau.

"Roedd y dref yn llawn tagfeydd cyn i'r ffordd osgoi agor - mae'r ffordd osgoi nawr yn helpu pobl i gael i ac o'r gwaith yn llawer mwy cyflym," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Colin Owen bod y dref yn "hawsach i gael o gwmpas"

Dywedodd Colin Owen, sy'n rhedeg masnach glo ac amaethyddol bod y contractwyr wedi gwneud "gwaith ffantastig".

"Mae amseroedd teithio wedi gostwng yn syfrdanol sydd wedi lleihau cost trafnidiaeth. Gallwch wneud busnes yn hawdd yn y dref gan fod llai o dagfeydd."

Rhai busnesau 'wedi colli allan'

Mae Trevor Davies yn gweithio mewn siop frechdanau yn y dref a dywedodd bod y ffordd osgoi yn gwneud e'n "haws i gael o amgylch y dref".

"Rydych chi'n gael allan yn gyflymach, ond mae rhai busnesau dwi'n gwybod wedi colli allan oherwydd bod traffig ddim yn dod trwy'r dref dim mwy," meddai.

"Mae rhai yn y dref yn dweud bod e wedi helpu, ond mae'r un nifer yn dweud bod e heb.

"Dyw e heb wneud drwg i ni, ond dydyn ni heb gael busnes ychwanegol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y cynllun yn "rhoi buddiannau mawr" i sut mae traffig yn symud trwy ac o gwmpas y ddinas.

"Mae cyfarwyddiadau cynnar yn dangos gwelliant yn safon yr awyr yng nghanol tref Y Drenewydd ond bydd asesiad terfynol ar gael ym mis Mawrth."

Ychwanegodd bod gwerthusiad wedi cael ei gomisiynu a fydd yn dangos y "buddiannau llawn".