Bwriad i ddymchwel dau adeilad ar stryd fawr Bangor wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Tân Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Y gwasanaethau brys yn ymateb i'r tân ym Mangor ar 17 Rhagfyr

Mae yna gynlluniau i ddymchwel dau adeilad gafodd eu dinistrio gan dân "trychinebus" ar stryd fawr Bangor cyn y Nadolig.

Mae rhan o'r stryd fawr - rhwng y gadeirlan a bar Varsity - yn parhau ar gau i draffig ers y tân mewn fflat uwchben bwyty Noodle One ar 17 Rhagfyr.

Os bydd y cynlluniau'n cael eu caniatáu, bydd Noodle One a siop ddillad Morgan drws nesaf yn cael eu tynnu i lawr.

Mae'r ddau adeilad wedi cael eu disgrifio fel rhai sydd mewn "cyflwr anniogel sylweddol" ac mewn "risg o gwympo ar unwaith".

Yn y dogfennau sydd ynghlwm â'r cais cynllunio, dolen allanol, dywedwyd bod cau rhan o'r stryd fawr yn achosi "pryder mawr i fusnesau lleol".

Bydd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd yn gwneud penderfyniad maes o law, gyda'r awdurdod yn gobeithio ailagor y ffordd erbyn y Pasg.