Storm Dennis: 'Angen i gyrff cyhoeddus gydweithio'n well'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gyrff cyhoeddus gydweithio'n well er mwyn delio ag effeithiau'r tywydd, yn ôl un ymgynghorydd amgylcheddol.
Mae Cymru wedi ei tharo'n wael gan Storm Ciara a Storm Dennis yn y dyddiau ar wythnosau diwethaf.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru ddydd Sul fod y llifogydd yn "ddigwyddiad difrifol" wrth i Storm Dennis gael effaith ar gannoedd o gartrefi a busnesau.
Ddydd Mawrth daeth dau rybudd llifogydd newydd i rym yn Sir Fynwy wrth i Afon Gwy gyrraedd ei lefel uchaf erioed.
Mae disgwyl glaw trwm eto yn rhannau helaeth o Gymru ganol yr wythnos.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n trefnu cyfarfod yr wythnos hon yn cynnwys arweinwyr cynghorau a'r gwasanaethau brys i asesu effaith y difrod.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi clustnodi £1m o'u harian wrth gefn er mwyn helpu gyda'r gwaith glanhau, ar ôl i sawl rhan o'r sir gael eu heffeithio.
Dywedodd cadeirydd y panel sy'n cynghori Dŵr Cymru ar yr amgylchedd fod yna ddiffyg arweiniad ar atal llifogydd.
Yn ôl Mari Arthur mae angen gweithio ar frys i blannu coed a llystyfiant yn yr ucheldir er mwyn atal dŵr glaw rhag llifo i afonydd.
"Mae angen i ni fod yn edrych mwy ar atebion i fyny'r afon, gweithio gyda chynlluniau rheoli dŵr naturiol cynaliadwy," meddai.
"Mae'n biti na wnaethon ni ymateb yn gynt. Mae angen i ni edrych ar ddraenio dŵr trefol cynaliadwy yn y dinasoedd.
"Yr allwedd yw delio â phethau i fyny'r afon, plannu'r coed iawn yn y llefydd iawn, y bioamrywiaeth cywir, y planhigion sy'n sugno dŵr yn y lleoedd iawn.
"Dydyn ni ddim yn gwneud hynny fel gwlad."
Ychwanegodd: "Mae angen i'r prif gyrff ddod at ei gilydd - Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru.
"Ni all unrhyw un corff ei wneud ar ei ben ei hun."
Siroedd Ynys Môn, Y Fflint a Phenfro yw'r unig fannau sy'n debygol o osgoi'r glaw gwaethaf rhwng 18:00 ddydd Mercher a 15:00 ddydd Iau, yn ôl rhybudd diweddaraf y Swyddfa Dywydd.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd rheilffyrdd yn parhau i gael eu heffeithio ddydd Mawrth.
Awgrymodd Llŷr ap Gareth o Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru y dylid rhoi rhyddhad ar drethi busnes er mwyn "tynnu'r bwrdwn i ffwrdd" a galluogi busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd i "ddal anadl a chael eu hunain ar eu traed eto".
"Mi fysa hynny'n un rhan i geisio cael pobl i gael eu bywoliaeth yn ôl," meddai.
"Mae'n bwysig hefyd edrych yn strategol yn yr hirdymor.
"Mae busnesau bach yn rhan annatod o gymunedau ac mae'n bwysig eu bod nhw'n parhau ac yn ffynnu.
"Pe bysan ni'n colli'r busnesau bach yna oherwydd digwyddiadau fel y llifogydd yma, mi fysa hynna'n cael effaith trychinebus ar y cymunedau rheiny."
Ddydd Sul, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn paratoi i roi arian ychwanegol i awdurdodau lleol yn sgil y difrod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2020