Beirniadu bwrdd iechyd am farwolaeth menyw 87 oed
- Cyhoeddwyd
Bu farw menyw 87 oed am na chafodd ddiagnosis cywir o strôc tan ei bod hi'n rhy hwyr i dderbyn triniaeth, yn ôl adroddiad.
Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu asesu risg y fenyw yn iawn na chadw cofnodion digonol.
Roedd ei theulu wedi codi pryderon dros wendid ar ei hochr chwith, gwyriad i'w hwyneb ac o siarad yn aneglur.
Fe ymddiheurodd y bwrdd iechyd i'r teulu am y methiannau a'r loes a achoswyd.
Bu farw'r fenyw, sy'n cael ei hadnabod fel Mrs T yn yr adroddiad, ym mis Awst 2017 ar ei ffordd yn ôl i'r ward ar ôl cael pelydr-x nad oedd hi'n ddigon da i'w gael.
Gwnaed cwyn am y gofal a gafodd rhwng mis Mehefin 2017 a'r diwrnod y bu farw, ac mae'r ombwdsmon Nick Bennett wedi dweud wrth y bwrdd i ymddiheuro'n llawn i deulu Mrs T am y methiannau.
Derbyniodd y bwrdd fod y gofal a'r driniaeth yn is na'r safon ddisgwyliedig.
'Hynod bryderus'
Ychwanegodd eu bod eisoes wedi gwneud gwelliannau, cryfhau hyfforddiant a lansio polisi newydd yn hyrwyddo mwy o gyfathrebu wyneb yn wyneb rhwng staff meddygol.
Dywedodd Mr Bennett: "Rwy'n hynod bryderus am y methiant i asesu a thrin y symptomau strôc a gyflwynodd Mrs T yn ddigonol, hyd yn oed ar ôl i'w theulu ymyrryd.
"Erbyn i strôc Mrs T gael diagnosis ar brynhawn 27 Mehefin, roedd hi'n rhy hwyr i roi'r feddyginiaeth briodol."
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod nhw wedi gwahodd teulu Mrs T i weithio ar stori ddigidol i gleifion o fewn y bwrdd iechyd i hyrwyddo pwysigrwydd ymyrraeth y teulu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019