Llywodraeth yn 'ymyrryd yn ormodol' ym mwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gael effaith negyddol ar eu gwasanaethau trwy "ymyrryd yn ormodol".
Mae Andrew Davies, sy'n gyn-weinidog Llywodraeth Cymru, yn camu o'r neilltu ar ôl cyfnod o chwe blynedd a hanner fel cadeirydd y bwrdd iechyd.
Dywedodd bod uwch swyddogion y bwrdd iechyd yn gorfod cymryd rhan mewn "tri neu bedwar" o gyfarfodydd ffôn gyda gweision sifil pob dydd, pan fod ganddyn nhw "bethau gwell i'w gwneud".
Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod ei mewnbwn yw gwella perfformiad.
Dywedodd llefarydd: "Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am reoli eu gwasanaethau a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal gorau posib.
"Ond yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru rôl yn goruchwylio ac arwain y system i helpu neu ymyrryd ble fo angen er mwyn gwella perfformiad."
Perthynas 'anodd'
Ond dywedodd Mr Davies bod y berthynas rhwng Bwrdd Iechyd Bae Abertawe - newidiodd ei enw o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn gynharach eleni - a Llywodraeth Cymru "yn aml yn anodd iawn".
"Yn ddyddiol byddech chi'n cael y llywodraeth yn ymyrryd yn ormodol, ac er bod pawb yn y gwasanaeth yn ei gydnabod, ychydig iawn o bobl sy'n dweud rhywbeth amdano," meddai.
"Yn enwedig yn y gaeaf pan mae gennych chi bwysau dwys... weithiau rydych chi'n cael tri neu bedwar cyfarfod ffôn pob dydd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru.
"Dydy cymaint â hynny o graffu ddim yn eu helpu i fwrw 'mlaen gyda sortio'r broblem."
Mae Mr Davies wedi galw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i benderfynu a ydyn nhw am redeg gwasanaethau'n uniongyrchol neu barhau gyda'r system byrddau iechyd.
Galwodd hefyd am gael targedau ystyrlon oherwydd bod "popeth yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ac os ydy popeth yn flaenoriaeth, does dim byd yn flaenoriaeth".
'Targedau tymor byr'
Yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd mae'r bwrdd iechyd wedi wynebu beirniadaeth hallt am y driniaeth o gleifion hŷn yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.
Bu'n destun mwy o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru hefyd oherwydd ei fod wedi methu â mantoli ei gyllideb.
Dywedodd Mr Davies nad oedd yn osgoi atebolrwydd gan weinidogion ond ei fod yn teimlo nad yw'r "ffocws ar dargedau tymor byr" yn gweithio.
"Roeddwn i'n weinidog am 10 mlynedd, felly rwy'n deall y pwysau gwleidyddol," meddai.
"Ond y cwestiwn ydy, ai dyma'r ffordd o gael y gwasanaeth gorau ar gyfer y bobl a'r cymunedau ry'n ni'n eu gwasanaethu?
"Dydy'r ffocws ar dargedau tymor byr ddim yn cael ei adnabod fel y ffordd orau o sicrhau canlyniadau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd7 Medi 2016