Ofnau y bydd mwy o farwolaethau hyfforddiant milwrol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi torri cyfreithiau iechyd a diogelwch 40 gwaith yn y ddau ddegawd diwethaf, yn ôl ymchwiliad gan BBC Cymru.
Dywed teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid bod bywydau'n cael eu peryglu yn sgil camgymeriadau wrth hyfforddi, yn hytrach nag ar faes y gad.
Mae yna alwadau o'r newydd i'r fyddin golli'r hawl i beidio â chael eu herlyn.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn mai diogelwch yw'r "prif flaenoriaeth" a bod polisïau hyfforddiant yn cael eu "hadolygu'n aml".
Yn 2013 bu farw tri milwr mewn ymarferiad ar Fannau Brycheiniog ar un o ddiwrnodau poetha'r flwyddyn.
Mae rhieni un o'r milwyr, Craig Roberts o Fae Penrhyn ger Llandudno, wedi trafod yr achos gyda BBC Wales Investigates.
Fel teuluoedd rhai cyn aelodau eraill o staff milwrol, maen nhw am i'r Weinyddiaeth Amddiffyn wynebu cyhuddiadau troseddol pan fo pobl yn marw yn ystod hyfforddiant.
"Roedd yn caru hyfforddi, ac yn caru'r dynion hefo fo… 'nath o ffeindio ffordd o fyw roedd o'n mwynhau" meddai mam Craig, Margaret.
"Roedden ni'n poeni beth fydda disgwyl iddo 'neud pe bai'n cael ei anfon i wasanaethu. 'Naethon ni'm meddwl ddwywaith am yr hyfforddiant."
Ar y diwrnod y bu farw, roedd Craig ar daith 16 milltir yn erbyn y cloc yn ystod prawf dewis milwyr i wasanaethu gyda'r SAS.
Roedd disgwyl i'r ymgeiswyr orymdeithio ar draws Bannau Brycheiniog gyda bag yn pwyso 25 cilogram ar eu cefnau mewn gwres uchel heb unrhyw awel.
Roedd dau ddyn eisoes wedi eu tynnu o'r ymarferiad yn dioddef oherwydd y gwres - arwydd bod yna risg i eraill.
Wrth i'r daith barhau fe syrthiodd Craig, oedd yn 24 oed, a marw. Bu farw dau arall, James Dunsby ac Eddie Maher, hefyd yn sgil y gwres.
'Angen edrych ar bob catrawd'
Dyfarnodd crwner yn 2015 bod yr hyfforddiant a'r cynllunio ar y diwrnod hwnnw yn ddiffygiol, a bod y fyddin wedi esgeuluso'r dynion a fu farw.
"Chafodd Craig ddim damwain, 'nath o ddim syrthio o glogwyn, methiant y Weinyddiaeth Amddiffyn y diwrnod hwnnw oedd hyn a dylai hynny fyth fod wedi digwydd," meddai Margaret Roberts.
"Rydyn ni'n gwybod bod y lluoedd arbennig yn fwy diogel rŵan, ond mae angen edrych ar bob catrawd, nid dim ond y lluoedd arbennig."
"Dylai hyn fyth fod wedi digwydd eto ond mi wnaeth. Ni ddylai fod wedi bod y rhai olaf."
Dywedodd y fyddin y byddai'n gwneud "popeth posib" i atal marwolaethau tebyg i rai 2013, ond wnaeth hynny ddim arbed Joshua Hoole.
Roedd hi'n ddiwrnod poeth arall yng Ngorffennaf 2016 pan fu farw yn ystod ymarferiad ffitrwydd ym Mannau Brycheiniog.
Cafodd ei ddisgrifio fel un o filwyr mwya' ffit ei uned, ac roedd wedi gwasanaethu yng ngwres Afghanistan.
O'r 41 wnaeth ymarfer y diwrnod hwnnw yng Nghymru, methodd 18 â chwblhau'r hyfforddiant.
Fel Craig Roberts, roedd Joshua bron â chwblhau'r her. Fel Craig, fe lewygodd a marw, er gwaethaf triniaeth feddygol.
"Fe wnaethon nhw addo y byddai gwersi'n cael eu dysgu," meddai Mrs Roberts.
"Ond pan 'dach chi'n darllen cofnod cwest [Josh], mae fel darllen cofnod cwest Craig, a 'dach chi'n gofyn 'onid ydyn nhw wedi dysgu?'"
148 marwolaeth
Mynegodd y crwner yn achos y Corporal Hoole "bryderon dybryd" am allu'r fyddin i ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol.
Dros y ddau ddegawd diwethaf mae 148 milwr wedi marw, nid ar faes y gad ond yn ystod ymarferion hyfforddi.
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru wedi darganfod bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi torri rheolau iechyd a diogelwch 40 gwaith yn y cyfnod hwnnw.
Ond gan fod y Weinyddiaeth Amddiffyn â breintryddid (immunity) y Goron, does dim modd dwyn achos troseddol yn ei herbyn.
Mae BBC Wales Investigates hefyd wedi darganfod adolygiad mewnol gafodd ei gomisiynu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2002 wedi sawl marwolaeth wrth ddeifio.
Roedd yn argymell "newidiadau sylweddol" i gyfarpar a hyfforddiant er mwyn cyrraedd safonau'r 21ain ganrif.
Ddwy flynedd wedi hynny, bu farw'r Sarsiant Bill McLellan yn ystod ymarferiad yn Yr Almaen. Roedd yn gwisgo'r un cit â'r hyn roedd y fyddin wedi cael rhybudd i'w newid.
Yn 2016, cafodd y Weinyddiaeth Amddiffyn rhybudd pellach am broblemau diogelwch yn ymwneud â chyfarpar deifio newydd. Cafodd y pryderon hynny eu gwrthod.
Yn 2018, bu farw'r Is-gapten George Partridge yn y Ganolfan Ddeifio a Gweithgareddau Cenedlaethol ger Cas-gwent.
Daeth ymchwiliad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i'r casgliad bod gwersi heb eu dysgu, a bod yna dal ddim hyfforddiant ffurfiol ar gyfer swyddogion deifio.
Mae Hilary Meredith yn cynrychioli gweddw'r Sarsiant McLellan ac unigolion eraill sydd wedi colli anwyliaid wedi damweiniau yn ystod ymarferion milwrol.
Wrth gydnabod bod angen paratoadau trylwyr ar gyfer bywyd milwrol, mae'n dweud bod methiant i newid yn achosi damweiniau i ddigwydd "dro ar ôl tro."
Ychwanegodd ei bod yn "credu mai bod yn eithafol ydy'r unig ffordd i sicrhau newid - tynnu'r imiwnedd fel bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cymryd cyfrifoldeb ac yn cael cosb neu ddirwy petai yna dystiolaeth o ddiystyru bywydau'n ddiofal".
'Wedi gweithredu'
Mae BBC Wales Investigates wedi darganfod bod anafiadau roedd modd eu hatal wedi costio dros £56m i'r Weinyddiaeth Amddiffyn rhwng 2012 a 2019.
Gan ychwanegu costau cyfreithiol, mae yna amcangyfrif bod damweiniau yn sgil tywydd eithafol wedi costio dros £18m y flwyddyn i'r lluoedd arfog.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn monitro a gwerthuso hyfforddiant yn gyson, ac yn archwilio "pob achos marwolaeth wrth hyfforddi" i "sicrhau cyn lleied o achosion â phosib."
Mae'r polisi salwch tywydd wedi ei addasu chwe gwaith ers 2015, meddai, ac mae adolygiad diogelwch llawn wedi ei gynnal yn 2018 i weithgareddau deifio - adolygiad sy'n parhau.
Ychwanegodd bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch â'r grym i ymchwilio a cheryddu'r Weinyddiaeth Amddiffyn os yw'n torri'r gyfraith Iechyd a Diogelwch.
"Ym mhob achos bron ble mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi adnabod ffaeleddau, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gweithredu i atal achos arall, a hynny cyn unrhyw benderfyniad ynghylch derbyn Cerydd y Goron.
Mae teulu Craig Roberts wedi ymuno â'r galw i newid y gyfraith fel bod modd erlyn y Weinyddiaeth Amddiffyn os yw pethau'n mynd o'i le.
Tan i hynny ddigwydd, meddai tad Craig, Kelvin, "fe fydd hyn, mae'n flin gen i ddweud, yn digwydd eto dro ar ôl tro."
BBC Wales Investigates: Our Son Died - When Will They Learn? Nos Fercher, 19 Chwefror am 20:00 ar BBC One Wales
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2016