'Rhaid canfod mwy o arian' wedi difrod stormydd

  • Cyhoeddwyd
Pontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhannau helaeth o Gymru dan ddŵr, gan gynnwys canol Pontypridd, ar ôl i werth mis o law ddisgyn mewn 48 awr yn ystod Storm Dennis y penwythnos diwethad

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud mai swm cychwynnol oedd cronfa £10m i helpu cymunedau ymdopi ag effeithiau llifogydd diweddar a bydd angen "sawl gwaith £10m" yn y pen draw.

Daeth sylwadau Mark Drakeford ar ddiwedd cyfarfod arbennig i drafod y difrod a'r trafferthion ar draws Cymru wedi dau benwythnos o dywydd garw.

Bydd awdurdodau lleol sy'n derbyn arian o gronfa llifogydd Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i roi gostyngiad dros dro i filiau treth preswylwyr a pherchnogion busnes sydd wedi cael eu heffeithio.

Yn y cyfamser, mae rhybudd arall am dywydd garw mewn rhannau o Gymru mewn grym ers 15:00 brynhawn Mercher.

Mae disgwyl mwy o law yn rhannau o'r gogledd a welodd lifogydd yn ystod Storm Ciara, a rhannau o'r de a welodd mwyafrif y difrod wedi Storm Dennis dan rybudd melyn sy'n para tan 14:00 ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys, busnesau a grwpiau gwirfoddol fu'n trafod effeithiau'r tywydd garw gyda'r Prif Weinidog ddydd Mercher

Cyhoeddodd Mr Drakeford ddydd Mawrth y byddai'r llywodraeth yn neilltuo hyd at £10m, gan amcangyfrif bod dros 800 o fusnesau a chartrefi wedi dioddef yn sgil stormydd Ciara a Dennis.

Yn dilyn cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod Mr Drakeford wedi datgan yn glir y byddai'r gefnogaeth ariannol "yn cael ei gwasgaru fel mater o flaenoriaeth, ac mewn ffordd hawdd i'w gael ato".

'Os bydd angen mwy o arian, bydd rhaid canfod mwy o arian'

Dywedodd Mr Drakeford mai swm cychwynnol ar gyfer trafferthion brys yw'r £10m gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth a bod hi'n amlwg y bydd angen "sawl gwaith y £10m yna" yn y pen draw.

"Mae'r awdurdodau lleol yn dal i ddod ar draws eiddo sydd wedi eu heffeithio," meddai. "Os fydd angen mwy [o arian], yna bydd rhaid canfod mwy o arian".

Ychwanegodd ei fod wedi gofyn wrth Lywodraeth y DU am gymorth ariannol, a bod Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi cynnig cymorth gyda'r trafodaethau hynny.

Dywedodd prif weithredwr Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan bod dros 1,000 o gartrefi a busnesau'r sir wedi eu heffeithio a bydd angen ailgodi "tair, efallai pedair o bontydd".

"Mae maint y broblem yn fwy na wnaethon ni dybio yn y lle cyntaf," meddai, gan awgrymu bod cost o "rhwng £10m a £15m" i'w gyngor ei hun yn unig.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd angen achub rhai pobl yn Nantgarw fore Llun

Roedd Mr Drakeford eisoes wedi cwrdd â'r awdurdodau lleol yr wythnos yma a chadarnau bwriad y llywodraeth i weithio gyda nhw i drwsio difrod i isadeiledd wedi'r llifogydd, gan gynnwys pontydd, ffyrdd a'r amddiffynfeydd llifogydd presennol.

"O ran unigolion, ein blaenoriaeth fydd teuluoedd sydd heb unrhyw fath o yswiriant, sydd wedi colli popeth a heb fodd o gael pethau yn eu lle," meddai cyn y cyfarfod.

"Fe fyddwn ni wedyn yn chwilio am ffyrdd o roi'r arian i'r rhai sydd ei angen fwyaf, ac mor fuan ag sy'n bosib."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cwrdd gyda Caroline Jones yn ei chartref ym Mhontypridd

Mae'r tywydd garw wedi achosi oedi neu ganslo llawer o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ac fe gafodd ffyrdd eu cau gan lifogydd a thirlithriadau.

Mae rhybudd hefyd y bydd trenau yn parhau i gael eu heffeithio'n sylweddol am y pedwerydd diwrnod yn olynol ddydd Mercher.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Welsh Water

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Welsh Water

Dywedodd Dŵr Cymru amser cinio dydd Mercher eu bod bellach wedi gallu cael mynediad at eu safle trin dŵr yn Nhrefynwy yn dilyn y llifogydd.

Mae rhan helaeth o'r safle yn parhau dan ddŵr ac felly nid oes pŵer ar y safle ar hyn o bryd.

Mae'r cwmni yn gofyn i gwsmeriaid yn yr ardal leihau eu defnydd o ddŵr am y tro, ac yn rhybuddio y gall rhai cwsmeriaid fod â phwysedd dŵr isel.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod 163mm o law wedi disgyn yn y 48 awr rhwng amser cinio dydd Gwener ac amser cinio dydd Sul, gan ddisgrifio'r llifogydd fel rhai "digynsail".

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y bydd rhagor o lifogydd yn sgil glaw trwm ddydd Mercher a dydd Iau