'Cymru ar ei hôl hi o ran adnabod dementia'
- Cyhoeddwyd
Gallai sganiwr canser gael ei ddefnyddio i ganfod ffurfiau cynnar a chymhleth o ddementia, yn ôl gwyddonwyr.
Mae meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn credu y gallai ei sganiwr PET ddangos arwyddion o'r cyflwr mewn pobl na sydd â symptomau ohono.
Dyw oddeutu 47% o bobl yng Nghymru sy'n byw gyda dementia ddim wedi cael diagnosis.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £10m yn eu cynllun taclo dementia.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi bod yn cynnal cynllun peilot ymhlith cleifion a gredir o fod yn byw â'r cyflwr.
Dywedodd yr Athro Chris Marshall, cyfarwyddwr Canolfan Delweddu PET Cymru ei fod yn gobeithio y bydd y sganiwr yn "rhoi diagnosis llawer cynt na symptomau cynyddol y cyflwr".
Yn ôl Dr Chineze Ivenso, cadeirydd adran henoed yng Ngholeg Brenhinol Seiciatryddion Cymru, mae Cymru ar ei hôl hi o ran adnabod dementia a dim ond Cymru sydd ddim yn cynnal profion o'r math yma.
Ychwanegodd: "Mae sganiwr PET yn rhoi'r cyfle i gleifion gael diagnosis cynnar ac mewn rhai achosion mae'n cynnig diagnosis mwy cywir.
"Mae hynny wedyn yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n byw â'r cyflwr i gael cymorth seicolegol a ffordd fwy addas o fyw, yn gynt."
Yng Nghymru dyw 47% o bobl sy'n byw â dementia ddim wedi cael diagnosis - yng ngweddill y DU 34% yw'r ganran.
Buddsoddi £10m
Mae Dr Ivenso hefyd yn dweud bod hi'n bosib i'r peiriant ganfod arwyddion o ddementia ymhlith pobl sydd ddim hyd yma wedi profi symptomau - er nad yw sgrinio am ddementia yn cael ei argymell gan NICE - y sefydliad rhagoriaeth iechyd a gofal.
Dywedodd: "Mae cael dementia yn golygu cael plac, na ddylai fod yno, yn yr ymennydd.
"Weithiau mewn cyfnod cynnar os yw placiau yn datblygu yn yr ymennydd mae'r sganiwr PET yn gallu eu hadnabod.
"Mae'n bosib bod gan y person yna arwyddion o'r cyflwr a'i fod hyd yma ddim ag unrhyw symptom ohono."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn cydnabod pwysigrwydd diagnosis buan o ddementia er mwyn rheoli'r cyflwr.
"Ry'n yn buddsoddi £10m y flwyddyn er mwyn cefnogi ein cynllun gweithredu dementia sy'n cynnwys prosiectau ar draws Cymru sy'n cyflymu graddfa diagnosis.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda meddygon a gwasanaethau asesu cof lleol i wella'r graddau o adnabod y cyflwr a darparu gwell mynediad i asesiad, diagnosis a thriniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018